main logo

Diploma Lefel 2 mewn Gwneuthuro a Weldio

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00252
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser – 18 awr yr wythnos.
Adran
Gwneuthuro a Weldio
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Cwrs City & Guilds yw hwn lle byddwch yn caffael y sgiliau i fod yn weldiwr, gwneuthurwr neu weithiwr llenfetel. Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau mewn gwneuthuro metel, lluniadu peirianneg ac ystod o dechnegau weldio yn ogystal ag iechyd a diogelwch.

Fe allai cynnwys yr uned newid i gwrdd ag anghenion diwydiant lleol

Datblygu Sgiliau TGAU a/neu Lythrennedd a Rhifedd

Profiad Cysylltiedig â Gwaith lle darperir cyfleoedd

Bydd disgwyl i ddysgwyr nad ydynt wedi cyflawn gradd C/4 mewn TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf fynychu sesiynau I gefnogi hyn yn ogystal â’u rhaglen alwedigaethol.
Mae’r cwrs yn gofyn am asesu aseiniadau’r coleg yn barhaus a byddant yn cael eu casglu ynghyd fel tystiolaeth bortffolio i ateb gofynion y corff dyfarnu.

Trefnir arholiadau City & Guilds ac arholiadau a fydd yn cael eu gosod a’u marcio’n allanol ar adegau allweddol trwy gydol y cwrs.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cwblhau Diploma Lefel 1 mewn Gwneuthuro a Weldio.
Mae nifer cynyddol o gyflogwyr yn y diwydiant gwneuthuro a weldio bellach yn cydnabod pwysigrwydd Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ), Sgiliau Hanfodol, tystysgrifau City & Guilds fel nodwedd hanfodol o’u rhaglenni hyfforddi sgiliau.

Efallai y bydd cyfleoedd yn bodoli i gael cyflogaeth dan hyfforddiant yn unrhyw un o’r disgyblaethau crefft canlynol: Gwneuthuro a Weldio Llenfetel.

Yn dilyn blwyddyn gyntaf lwyddiannus o astudio, gellir symud ymlaen i’r diwydiant Gwneuthuro a Weldio neu fel Prentis Sylfaen cyflogedig.

Efallai y bydd dysgwyr sy’n cael cyflogaeth hefyd, yn dibynnu ar yr amodau a gynigir gan eu cyflogwyr, yn cael cyfle i symud ymlaen i Lefel 3 mewn Gwneuthuro a Weldio yn y dyfodol.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?