main logo

Lefel 2 Niwro- Gofal Anifeiliaid

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01529
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 1 flwyddyn llawn amser.
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
09 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs Gofal Anifeiliaid (Niwroamrywiol) Lefel 2 yn rhaglen gynhwysol a llawn cefnogaeth sy'n darparu amgylchedd dysgu a fydd fwyaf addas I CHI. Mae'r cwrs hwn wedi'I gynllunio I fodloni anghenion a galluoedd dysgwyr niwroamrywiol ac mae'n ffordd wych o ddysgu rhagor am ofal anifeiliaid a'r hyn y gall ei gynnig.

Bydd y Ganolfan Gofal Anifeiliaid ardderchog yn rhoi cyfle I chi ennill sgiliau ymarferol gwerthfawr, gyda mynediad I dros gant o rywogaethau o anifeiliaid gan gynnwys cwningod, geifr, nadroedd, madfallod a chnofilod. Byddwch hefyd yn cwmpasu ystod eang o wybodaeth sylfaenol a bydd y cyfuniad hwn yn rhoi cychwyn da I chi ar eich llwybr gyrfa dewisol.

Bydd Gofal Anifeiliaid (Niwroamrywiol) yn rhoi'r cymysgedd cywir o sgiliau I chi ddatblygu eich uchelgeisiau, gan sicrhau eich bod yn cael y profiad a'r wybodaeth gyffredinol orau I lwyddo. Byddwch yn gweithio gyda staff arbenigol I ddatblygu eich sgiliau wrth ofalu am anifeiliaid. Gyda chefnogaeth lawn, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu cymdeithasol, trefnu, a sgiliau bywyd a byw.

Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd I bob dysgwr ar y rhaglen a chewch gyfle I ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu TGAU.

Bydd gennych diwtor personol a fydd yn eich cefnogi drwy gydol eich amser ar y rhaglen. Byddant yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn I chi ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allai godi yn cael eu hymgorffori yn eich rhaglen I'ch helpu I lwyddo. Mae'r cwrs yn cael ei gefnogi'n llawn I ddiwallu anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
Asesir y cwrs trwy asesu parhaus ac adeiladu portffolio.

Gall Saesneg a Mathemateg olygu sefyll arholiadau.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon, mae’n rhaid i ddysgwyr fod ag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth a bod â Chynllun Dysgu a Sgiliau cyfredol, Cynllun Datblygu Unigol neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal sy’n dogfennu anhawster cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth.

Y gofynion mynediad nodweddiadol yw 4 TGAU gradd E/2 neu uwch, ac awydd am yrfa yn y diwydiant anifeiliaid yn y dyfodol.
Neu
Fod wedi cwblhau Gofal Anifeiliaid (Niwroamrywiol) Lefel 1 yn llwyddiannus.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i’r Dystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid neu Radd 3 mewn Rheoli Anifeiliaid (Niwroamrywiol) neu Brentisiaeth Lefel 2 yn y Gwaith mewn Gofal Anifeiliaid.

Gall dysgwyr sy’n dymuno mynd i gyflogaeth ddod o hyd i waith mewn sŵau, siopau anifeiliaid anwes, cynelau a lletyau cathod, canolfannau achub anifeiliaid, meddygfeydd milfeddygol ac mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau gofal anifeiliaid eraill.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?