main logo

Cyflwyniad i Ofal Anifeiliaid Lefel 1

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP51010
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 1 flwyddyn lawn amser, 3 diwrnod yr wythnos yn y coleg.
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn darparu cyflwyniad i ofal anifeiliaid ac mae ganddo ffocws ymarferol, galwedigaethol sy'n cael ei gefnogi gyda sesiynau yn yr ystafell ddosbarth, y cyfan wedi'u cynllunio i ymestyn ac annog datblygu sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad er mwyn gweithio tuag at gael cyflogaeth sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid.
Mae'r rhaglen Cyflwyniad Lefel 1 i ofal anifeiliaid wedi'i anelu at ddysgwyr heb fawr o brofiad ym maes gofal anifeiliaid, os o gwbl, ac yn chwilio am lwybr mwy galwedigaethol i'r sector gofal anifeiliaid.

Ymhlith y pynciau y byddwch yn eu hastudio mae iechyd a llesiant anifeiliaid, trin anifeiliaid,
bwydo a dyfrio, a llety anifeiliaid.

Byddwch yn cymryd rhan yn y broses o helpu i ofalu am yr ystod eang o anifeiliaid yn y coleg a gweithio ym mhob maes o'r ganolfan anifeiliaid i ddarparu ystod eang o ddysgu drwy brofiad.

Bydd y Ganolfan Gofal Anifeiliaid a Rhywogaethau Prin rhagorol yn rhoi cyfle i chi ennill sgiliau ymarferol gwerthfawr, gyda mynediad at dros gant o rywogaethau o anifeiliaid gan gynnwys cwningod, moch cwta, llygod mawr, llygod, ieir, hwyaid, ffuredau, cŵn, defaid, geifr, moch a physgod. Byddwch hefyd yn ymdrin ag ystod eang o wybodaeth ategol a bydd y cyfuniad hwn yn eich rhoi chi ar ben ffordd yn eich llwybr gyrfa dewisol.

Bydd y dysgu mor hwyliog â phosibl a byddwch yn dysgu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, gwaith unigol a grŵp, gwaith ymarferol, ac yn defnyddio ystod o dechnoleg dysgu fodern.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o'r rhaglen a byddwn yn gweithio gyda chi i wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd.
Byddwch yn cael eich asesu mewn llawer o wahanol ffyrdd sydd wedi’u cynllunio i ymestyn ac annog eich datblygiad:

● Asesiadau ymarferol anffurfiol
● Cwestiynau gwybodaeth byr
● Cynhyrchu portffolio o waith
● Byddwch hefyd yn gweithio tuag at wella Llythrennedd a Rhifedd
4 TGAU gradd E/2 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg neu Gymraeg (Iaith 1af)

I bob dysgwr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o Sgiliau Sylfaen – rhaid i chi fod wedi cyflawni eich cymhwyster E3, symud ymlaen mewn Mathemateg a Saesneg a chyflawni’r holl dargedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y
gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Dilyniant ar ôl y cwrs hwn

● Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid (Astudiaethau Technegol)
● Cyflwyniad i Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid
● Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid yn y Gwaith
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?