main logo

Diploma Lefel 3 CQ mewn Nyrsio Milfeddygol - Anifeiliaid Bach

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA99785
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, 2.5 – 3 blynedd
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Os ydych chi'n caru anifeiliaid ac yn teimlo’n angerddol ynglŷn â gwella eu hiechyd a'u lles, mae'n werth ystyried gyrfa mewn nyrsio milfeddygol.
Mae'r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol yn hanfodol i ddod yn Nyrs Filfeddygol Gofrestredig (RVN) gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol (RCVS). Byddwch yn datblygu sgiliau clinigol a chyflogadwyedd hanfodol mewn lleoliadau gwaith, ac yn cael eich cefnogi i baratoi ar gyfer y cyfrifoldebau o fod yn nyrs filfeddygol gofrestredig.

Rhaid i chi gwblhau isafswm gorfodol o 2,990 awr o hyfforddiant. Bydd hyn yn cynnwys mynychu coleg am 1 diwrnod yr wythnos a bod mewn cyflogaeth gyda phractis hyfforddi milfeddygol (wedi’i gymeradwyo gan yr RCVS) am o leiaf 1800 o oriau dros gyfnod y brentisiaeth 2 flynedd a hanner - 3 blynedd.

Mae’r rhai o’r unedau sy’n cael eu cwmpasu yn cynnwys:
● Gofynion gweithredol practis milfeddygol
● Anatomeg a ffisioleg
● Lles ac iechyd anifeiliaid a hwsmonaeth
● Rheoli heintiau
● Cymorth nyrsio
● Gofal nyrsio critigol a brys
● Cyflenwad o feddyginiaethau
● Sgiliau diagnostig
● Anaesthesia
● Labordy
● Ymarfer mewn theatr lawfeddygol
● Aseiniadau, arholiadau ac Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE)
● Log Sgiliau Canolog Ar-lein wedi’i gwblhau yn y practis gyda’ch hyfforddwr clinigol
● Rhaid cwblhau pob elfen er mwyn cyflawni’r cymhwyster hwn.
Rhaid I chi fod yn gyflogedig mewn practis hyfforddi milfeddygol yng Nghymru am o leiaf 16 awr yr wythnos

Rhaid I gael o leiaf 5 TGAU gradd C / 4 neu uwch, a rhaid iddyn nhw gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth

Mae’n bosib y bydd cymwysterau eraill yn dderbyniol ar gyfer ar lefel 2 neu uwch – bydd hyn yn cael ei drafod yn y cyfweliad.
Mae cwblhau’r cymhwyster hwn yn eich galluogi i wneud cais i’r Coleg Milfeddygol Brenhinol (RCVS) i fod yn Nyrs Filfeddygol Gofrestredig (RVN).

Mae’r cyfleoedd gyrfa yn cynnwys:
● Nyrs filfeddygol mewn practis / ysbyty
● Swyddi lles anifeiliaid
● Swyddi eraill yn y diwydiant milfeddygol, er enghraifft fl cynrychiolydd ar gyfer gwneuthurwr offer, maethol, ffarmacolegol milfeddygol
● Arbenigedd, er enghraifft fel nyrs theatr / nyrs feddygol
● Technegydd mewn labordy / ymchwil
Cysylltwch â’r tîm ymgysylltu â chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu e-bostiwch employers@cambria.ac.uk i drafod cymhwystra ar gyfer cyllid.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?