main logo

Diploma Technegol Uwch Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP51296
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs dwy flynedd llawn amser
Adran
Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl Gywir
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster wedi’i lunio i’ch darparu chi ag ystod o sgiliau modern, ymarferol technegol arbenigol. Bydd yn cael ei gyflwyno drwy wersi a hyfforddiant manwl a fydd yn datblygu eich dealltwriaeth ymhellach yn y diwydiant da byw amaethyddol.

Bydd eich astudiaethau’n canolbwyntio ar amaethyddiaeth, byddwch yn datblygu eich sgiliau a’ch dealltwriaeth o dechnegau rheoli porfeydd modern, dadansoddi bridiau, defnyddio a rheoli peiriannau, cynnal a chadw a rheoli ystadau, cofnodi perfformiad da byw modern, samplo cnydau a phridd.

Defnyddio technoleg arloesol a diweddar, defnyddio’r peiriannau diweddaraf fel mesuryddion plât mesur glaswelltir, microsgop cyfri wyau ysgarthol a fflyd o dractorau a pheiriannau modern.

Gan ddefnyddio technoleg da byw arloesol a diweddar byddwch yn datblygu sgiliau a phrofiad i’ch helpu i feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth i ddod yn fwy effeithlon:
● Rheolwr Fferm
● Agronomegydd
● Rheolwr Fferm Cynorthwyol
● Arbenigydd Da Byw
● Gweithredwr peiriannau

Cyflenwir y rhain trwy ein Canolfan Addysgu Amaethyddol bwrpasol, gweithdai safon Diwydiant a chyfleusterau labordy modern. Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys ymweliadau â diwydiant, sioeau amaethyddol yn ogystal â gwneud defnydd llawn o’n fferm waith fasnachol amrywiol, sy’n cynnwys 400Ha gyda buches laeth fawr, eidion a defaid, uned âr, ac ystod o goetiroedd.

Byddwch hefyd yn cwblhau cyfnodau mewn lleoliadau gwaith trwy gydol y cwrs mewn busnes Tirol perthnasol. Mae’r lleoliadau gwaith gwerthfawr hyn yn rhan annatod o’r cwrs. Maent yn eich galluogi i feithrin eich sgiliau ymhellach, yn ogystal â sefydlu cysylltiadau yn y diwydiant a gwella eich rhagolygon gwaith yn y dyfodol.

Mae Sgiliau Hanfodol yn rhan annatod o’r rhaglen, a byddwch yn cwblhau cymwysterau ychwanegol i wella eich sgiliau Rhifedd, Llythrennedd a TGCh. Bydd gennych hefyd y cyfle i weithio ar weithgareddau menter a chwblhau’r Bagloriaeth Cymru Uwch sy’n berthnasol i’ch pwnc cwrs.


Yn ogystal, bydd gennych y cyfle i ymgymryd ag asesiadau allanol i ennill tystysgrifau cymhwysedd mewn meddyginiaethau milfeddygol, cludo anifeiliaid, cneifio, trinwyr telescopig, chwistrellu plaladdwyr, a gyrru cerbydau pob tir (ATV).
Byddwch yn dysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys sesiynau theori, gwaith unigol a gwaith grŵp, a thasgau ymarferol.

Cynhelir asesiadau yn gyson drwy gydol y flwyddyn ar ffurf aseiniadau, arsylwadau ymarferol, profion bychain, arholiadau, asesiadau synoptig, cyflwyniadau a chyfnod llwyddiannus mewn lleoliad profiad gwaith.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Cymraeg/Saesneg (Iaith 1af) a Mathemateg neu Ddiploma Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Prentisiaethau, at waith neu gwrs Addysg Uwch cysylltiedig.
Technegydd da byw, Agronomegydd, Arbenigwr Bridio, Hunangyflogaeth, Prifysgol.

Efallai dymunwch symud ymlaen i ddysgu pellach mewn Addysg Uwch gan gynnwys Coleg Cambria – Llysfasi neu Brifysgol. Gallwch astudio cyrsiau fel:

Gradd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth BSc (Anrh)
Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid BSc (Anrh)
Amaethyddiaeth gydag Astudiaethau Busnes BSc (Anrh)
Amaethyddiaeth gyda Rheolaeth Cefn Gwlad BSc (Anrh)
Amaethyddiaeth gyda Mecaneiddio Fferm BSc (Anrh)
Fe allai fod yn ofynnol prynu offer ac/iwnifform ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?