main logo

Diploma Lefel 3 mewn Cerbydau Modur - BR

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00333
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Cerbydau Modur
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i feithrin eich sgiliau gwasanaethu a thrwsio ac mae hefyd yn addas ar gyfer y rhai sy’n dilyn rhaglenni Prentisiaeth Fodern. Byddwch yn dysgu sut i ganfod namau mwy cymhleth a thrwsio prif unedau, a byddwch yn dysgu gweithdrefnau profi ac atgyweirio ar gyfer systemau injan, ffrâm, trawsyriant a systemau trydanol.
Bydd gweithgareddau ymarferol yn cael eu hasesu mewn amgylchedd gwaith realistig. Bydd gwybodaeth yn cael ei phrofi drwy aseiniadau ysgrifenedig byr a chwestiynau ag atebion amlddewis. Cynhelir asesiadau ymarferol yn ystod gweithgareddau gweithdy.
Cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Gwaith yn y diwydiant cerbydau modur.

Symud ymlaen at Reolaeth Broffesiynol yn y Diwydiant Modur neu Lefel 4.
Prentisiaeth uwch yn y diwydiant modur.

Cwrs Gradd Sylfaen yn y brifysgol.
Bydd angen prynu offer / gwisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o fanylion.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?