main logo

Mynediad i AU - Gofal Iechyd

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00223
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser blwyddyn o hyd.

Mae’r rhaglen Mynediad yn gwrs sy’n cael ei gyflwyno trwy gredydau am fodiwlau y gellir eu hastudio’n amser llawn dros gyfnod o flwyddyn (34 wythnos academaidd) o fis Medi
i fis Mehefin. Cynhelir y cwrs o 9.30am – 2.30pm (dros 4 diwrnod fel arfer).

Agwedd bwysig o’r rhaglen hon yw eich sgiliau rheoli amser eich hunain ac mae’n hanfodol eich bod yn cynllunio ymlaen llaw o ran dyrannu eich astudiaethau yn y dosbarth ac yn annibynnol. Bydd cael cynllun fel hyn ar waith yn eich cynorthwyo chi a’ch llwyddiant.
Adran
, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y Diploma yw paratoi dysgwyr ar gyfer astudio yn y brifysgol. Mae'r cwrs yn cynnwys modiwlau gorfodol yn y pynciau arbenigol ynghyd ag Astudiaethau Sgiliau Craidd. Mae'r unedau'n cynnwys pynciau fel Anatomeg a Ffisioleg, Cymdeithaseg/Seicoleg ac iechyd. Bydd y sgiliau craidd yn cynnwys sgiliau cyfathrebu ac astudio.
Cyflawnir y rhaglen drwy asesu parhaus. Mae’r rhan fwyaf o’r cwrs yn waith aseiniadau gyda rhywfaint o brofiad o brofion wedi’u hamseru neu arholiadau. Byddwch yn ennill credydau wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol. Mae’n rhaid cael 60 credyd i ennill y Diploma Mynediad i AU, sy’n cynnwys nifer o gredydau gorfodol. Graddau’r credydau lefel 3 yw Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth. Ar ôl cwblhau’r rhaglen astudio lawn yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.
TGAU gradd C/4 Saesneg / Cymraeg (Iaith gyntaf) neu Fathemateg, gydag o leiaf gradd D/3 yn y pwnc arall.
neu
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gydag o leiaf Lefel 1 yn y pwnc arall.

Mae profiad mewn lleoliad Gofal Iechyd addas yn ddymunol. Dylai ymgeiswyr fod yn 19 oed neu’n hŷn I astudio’r cwrs hwn.

Fodd bynnag, rydym yn annog oedolion sydd â phrofiad bywyd a gwaith i wneud cais hyd yn oed os nad oes ganddynt y gofynion mynediad uchod gan fod cais pob dysgwr yn cael ei asesu’n unigol.

Mae darpar ymgeiswyr yn cael eu hannog i gysylltu â phrifysgolion unigol er mwyn cael gwybodaeth am ofynion mynediad.

Efallai y cewch eich cynghori i gofrestru ar y cwrs Paratoi ar gyfer Gyrfa ac Astudio neu SHC cyn dechrau’r cwrs Mynediad. Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyfle i sefyll arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Saesneg.
Cafodd y cymhwyster Gofal Iechyd ei lunio ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i astudio cyrsiau gradd a dilyn gyrfaoedd yn y sector gofal, fel Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol neu Ymarferydd Adran Lawdriniaeth (ODP). Gweithwyr Iechyd Proffesiynol cynghreiriol.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?