main logo

FdA Astudiaethau Plentyndod

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01116
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Llawn amser, dros 2 flynedd. Gradd sylfaen gyda’r dewis o flwyddyn ychwanegol i gyflawni BA llawn.

Mae cynnwys yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb un diwrnod llawn yr wythnos (9am-8 pm). Diwrnod cyflwyno i’w gadarnhau.

Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n astudio’r cwrs hwn astudio’n annibynnol am gyfnodau a byddant yn cael y cyfle i gwblhau oriau lleoliad gwaith ychwanegol mewn lleoliad penodol.
Adran
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Addysgu, Asesu ac Addysg
Dyddiad Dechrau
19 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
30 Jul 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r radd sylfaen hon mewn Astudiaethau Plentyndod yn cael ei chyflwyno gan Goleg Cambria, mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth. Trwy gydol y radd sylfaen, byddwch yn archwilio ystod amrywiol o feysydd sy’n hanfodol i fywydau plant a bod wedi’ch arfogi gyda’r sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen i weithio mewn ystod o swyddi sy’n ymwneud â phlant. Bydd y radd sylfaen yn rhoi i chi’r sylfaen gadarn o wybodaeth a dealltwriaeth ynghyd â sgiliau beirniadol a dadansoddol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Caiff y rhaglen hon ei chyflwyno un ddiwrnod llawn o addysgu wyneb yn wyneb yr wythnos (diwrnod cyflwyno i’w gadarnhau).

Yn ystod dwy flynedd y radd sylfaen, mae cyfleoedd i fynd i leoliadau gwaith mewn amgylchedd gofal plant neu addysg. Mae’r cyfnod hwn yn y lleoliadau gwaith yn cynnig profiadau ymarferol o amgylcheddau dysgu a gofal yn ogystal ag arsylwi a rhyngweithio gyda phlant. Mae’r elfen ymarferol hon yn elfen bwysig o’r cwrs, gan eich galluogi i gysylltu theori ag ymarfer ac ehangu eich sgiliau proffesiynol.

Bydd cwblhau Blwyddyn 1 a 2 yn llwyddiannus yn galluogi myfyrwyr i gyflawni Gradd Sylfaen (FdA) mewn Astudiaethau Plentyndod. Bydd cwblhau’r FdA yn llwyddiannus yn caniatáu symud ymlaen i’r BA Astudiaethau Plentyndod ym Mlwyddyn 3.

Mae themâu Blwyddyn 1 yn cynnwys:

Polisïau addysgiadol
Datblygiad plentyn
Sgiliau astudio
Buddion a theori chwarae
Gweithio mewn partneriaeth
Datblygu iaith
Theorïau addysgu a dysgu

Modiwlau Blwyddyn 2

Seicoleg Meddwl a Dysgu (20 credyd)
Gweithio gyda Phlant (20 credyd)
Diogelu ac Ymarfer Proffesiynol (20 credyd)
Llythrennedd Plant Ifanc (20 credyd)
Deall y Cwricwlwm (20 credyd)
Dulliau Ymchwil (20 credyd)

Modiwlau Blwyddyn 3

Asesu ac Addysg
Hawliau Plant
Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar
Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol
Traethawd Hir
Bydd deunydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau rhyngweithiol, siaradwyr gwadd, a gweithdai. Rydym yn recordio sain darlithoedd fel y gallwch wrando eto yn eich amser eich hun.

Bydd amrywiaeth o dechnegau asesu yn eich galluogi i fanteisio ar eich cryfderau. Gall asesiadau gynnwys arholiadau, traethodau, prosiectau, ymarferion gan ddefnyddio llyfrau, gwerthuso adnoddau, posteri, a chyflwyniadau. Nid yw arholiadau yn cyfrif am fwy na 50% o’r marciau mewn unrhyw fodiwlau. Caiff aseiniadau ysgrifenedig eu marcio’n electronig a byddwch yn cael adborth ac awgrymiadau ar gyfer gwelliant ar gyfer pob aseiniad ac arholiad.
• 3 chymhwyster Safon Uwch gradd C neu uwch
• 96 o bwyntiau UCAS

Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad galwedigaethol sylweddol ond heb y gofyniad pwynt UCAS yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae angen gwiriad Heddlu Uwch Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Os ydych yn bwriadu cynnal eich lleoliad(au) gwaith yn eich gweithle presennol a bod gennych wiriad DBS yn ei le eisoes, bydd gofyn i chi ddod â’ch tystysgrif DBS i mewn i’w fetio a bydd angen i chi ganiatáu i ni gofnodi’r Rhif tystysgrif DBS. Os ydych yn cynllunio mynd i leoliad ar gyfer eich lleoliad gwaith lle nad oes angen gwiriad DBS dilys arnoch, bydd angen i chi gwblhau gwiriad DBS trwy Goleg Cambria.
Ar hyn o bryd mae’r coleg yn talu am gost eich gwiriad DBS. Bydd gofyn i chi ddod â’ch gwiriad DBS i mewn ar gyfer fetio a bydd angen i chi ganiatáu i ni gofnodi rhif tystysgrif y DBS.

Yn ddiweddar, mae myfyrwyr sydd wedi astudio FdA Astudiaethau Plentyndod yng Ngholeg Cambria wedi symud ymlaen yn hyderus i yrfaoedd ym meysydd addysg, gofal cymdeithasol, nyrsio, therapi lleferydd, gwaith cymdeithasol, lles plant, therapi chwarae, y diwydiant hamdden, cyfreithiau sy’n ymwneud â phlant ac ymchwil plentyndod.

Mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r FdA yn llwyddiannus hefyd wedi symud ymlaen i’r flwyddyn ychwanegol i gwblhau’r BA.

Bydd myfyrwyr hefyd yn cael budd o sgiliau trosglwyddadwy fel:

Y gallu i fynegi syniadau’n glir ar lafar ac yn ysgrifenedig
Sgiliau datrys problemau’n effeithiol a meddwl yn greadigol
Gallu gweithio’n annibynnol
Sgiliau rheoli amser a threfnu
Hunan-gymhelliant a hunanddibyniaeth
Gallu gweithio fel rhan o dîm
Sgiliau
Sgiliau ymchwilio’n effeithiol

Ffioedd y cwrs £9000 y flwyddyn.

Y myfyriwr sydd i dalu am gostau teithio yn ôl ac ymlaen i leoliadau gwaith.

Efallai bydd angen prynu cyfarpar a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Darllenwch y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Ar gyfer mis Medi 2022, rydym yn cynnig bwrsari* £1,000 i holl fyfyrwyr presennol Coleg Cambria students sy’n astudio’r cwrs gradd hwn. *Bydd bwrsarïau yn cael eu rhoi mewn dau randaliad, i fyfyrwyr sydd wedi talu eu ffioedd ac a fydd yn ddarostyngedig i amodau.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?