main logo

Lefel 3 Gofal Iechyd, Cymdeithasol a Phlant

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP51278
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae yna bwynt ymadael ar ôl blwyddyn 1 lle bydd dysgwyr yn cyflawni’r Dystysgrif, os yw dysgwyr am gwblhau’r Diploma yna bydd y cwrs yn cael ei gyflawni o fewn dwy flynedd. Bydd y Diploma yn darparu’r 3 Safon Uwch.
Adran
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs yn eich paratoi chi ar gyfer gwaith yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n gyfwerth â 3 gymhwyster Safon Uwch.
Er mwyn cyflawni 3 cymhwyster Safon Uwch yn ystod y 2 flynedd i gefnogi eich ceisiadau prifysgol, byddwch yn cael cynnig i gwblhau unedau estynedig a fydd yn cynnwys elfennau gwyddoniaeth. Rydym yn cynnig i chi ail-sefyll eich cymhwyster TGAU mewn Bioleg yn rhan amser sy’n cael ei gyflwyno yn ystod y nos.

Byddwch yn astudio ystod o bynciau I ddatblygu a dangos eich gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth yng nghyd-destun gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys y materion cyfredol ynghylch Iechyd a Gofal Cymdeithasol, egwyddorion gofal ac arferion diogel, ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolyn a’r effaith ar anghenion gofal a chymorth, hyrwyddo hawliau, cefnogi unigolion sy’n agored I niwed a gweithio yn y sector gofal iechyd. Bydd dysgwyr newydd yn cyflawni cymhwyster Craidd HSC hefyd, ynghyd â’u rhaglen lefel 3 I helpu eu paratoi nhw ar gyfer gwaith yn y sector.

Mae elfen sylweddol o leoliad gwaith yn rhan o’r cwrs a bydd gofyn I chi ymgymryd â 150 awr o leiaf mewn lleoliad perthnasol.
Asesir y cwrs drwy asesiad mewnol ac asesiad allanol sy’n cynnwys aseiniadau ac arholiadau.
5 TGAU gradd C/4 gan gynnwys Mathemateg, Iaith Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf) a Gwyddoniaeth, neu’ch bod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus ar lefel Rhagoriaeth sy’n cynnwys:

● Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
● TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
● Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, neu
● Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd

Bydd dysgwyr sydd heb gwblhau’r Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd eto hefyd yn cwblhau’r cymhwyster hwn ynghyd â’u lefel 3.

Bydd dysgwyr dilyniant sy’n symud o lefel 2 angen o leiaf C/4 yn Saesneg a D/3 mewn Mathemateg neu SHC CRh Lefel 1 a Chyfathrebu Lefel 2.
Bydd dysgwyr yn gallu gweithio tuag at C/4 mewn Mathemateg yn ystod eu cwrs, fodd bynnag, bydd y cyfle I gyflawni trydedd Safon Uwch yn cael ei drafod fesul unigolyn.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Gall dysgwyr symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth mewn ystod o swyddi, gan gynnwys Cynorthwyydd Gofal Iechyd, Gweithiwr Prosiect, Technegydd Ambiwlans.

Mae’r cymhwyster yn darparu sylfaen addas i astudio iechyd a gofal cymdeithasol trwy ystod o gyrsiau addysg uwch fel Gwaith Cymdeithasol, Addysgu, Hyrwyddo Iechyd, Seicoleg, Ffisiotherapi, Therapydd Galwedigaethol, Bydwreigiaeth, Nyrsio a Radiograffeg.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?