main logo

Gwyddor yr Amgylchedd - Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA16689
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Cwrs Safon Uwch llinol 2 flynedd – bydd pob asesiad ar ddiwedd yr ail flwyddyn.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Papur 1:
Yr amgylchedd ffisegol
Adnoddau ynni
Llygredd
Dulliau ymchwilio

Papur 2:
Yr amgylchedd byw
Adnoddau biolegol
Cynaliadwyedd
Dulliau ymchwilio
Mae amrywiaeth o ddulliau asesu yn cael eu defnyddio yn ystod y cwrs, gyda ffug arholiadau mewnol yn y ddwy flynedd. Cynhelir arholiadau allanol ar ddiwedd y cwrs dwy flynedd o hyd, ym mis Mai/Mehefin. Mae’r rhain yn werth 100% y cymhwyster Safon Uwch (dau bapur gwerth 50% yr un).
5 TGAU gradd C/gradd 4 neu uwch, gan gynnwys TGAU Iaith Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a TGAU Mathemateg.

A bodloni’r meini prawf canlynol:
– Gwyddoniaeth TGAU gradd C/4 neu uwch.

Sylwer: Mae TGAU Daearyddiaeth gradd C/4 neu uwch yn ddymunol.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Bydd myfyrwyr sy’n mwynhau dull rhyngddisgyblaethol i ddysgu ac sydd gyda diddordeb brwd yng nghynaliadwyedd ein planed yn gweld y fanyleb newydd hon yn ddiddorol ac yn ysgogi’r meddwl.

Gallai eich diddordeb yn yr amgylchedd eich arwain ar hyd sawl llwybr gyrfa, gan gynnwys: ecoleg, cadwraeth bywyd gwely, asesiad effaith amgylcheddol, dyframaeth, llywodraeth leol, cynllunio trefol a llunio trafnidiaeth.

Os ydych chi’n dewis symud ymlaen i faes addysg uwch, bydd gennych chi gyfleoedd i ddechrau mewn meysydd newydd fel ecotocsicoleg, hinsoddeg, geobioleg neu fioleg y môr. Mae prifysgolion poblogaidd ar gyfer egin wyddonwyr yr amgylchedd yn cynnwys: Lerpwl, UEA (Norwich), Aberystwyth, Bangor, Abertawe a Manceinion.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?