main logo

Astudiaethau Drama a Theatr Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00071
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae hon yn rhaglen astudio heriol, gwerth chweil a phleserus ac mae’n cynnig profiad gwerthfawr i chi os oes gennych chi ddiddordeb brwd a dawn yn y maes pwnc hwn.

Mae Drama a Theatr Safon Uwch yn cynnig y cyfle i fanylu ac ehangu dealltwriaeth ddeallusol ac ymarferol o’r maes pwnc ac i ddatblygu hyder, sgiliau cyfathrebu a chyflwyno.

Ym mlwyddyn 1 byddwch chi’n deall ac yn dadansoddi perfformiadau byw, yn astudio testun gosod ac yn perfformio darn wedi'i sgriptio. Ym mlwyddyn 2 byddwch chi’n astudio dau destun gosod ac yn dyfeisio darn o ddrama wreiddiol. Bydd gofyn i chi fynd i berfformiadau theatr proffesiynol yn rheolaidd.
Ar lefel UG
Uned 1 – Gweithdy theatr sy’n asesiad ymarferol a asesir yn fewnol, a’i gymedroli’n allanol.
Uned 2 – Mae Testun mewn Theatr yn arholiad ysgrifenedig.

Ar lefel Safon Uwch
Uned 3 – Testun mewn Perfformiad sy’n asesiad ymarferol a asesir yn allanol gan arholwr ar ymweliad.
Uned 4 – Mae Testun mewn Perfformiad yn arholiad ysgrifenedig.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch yn cynnwys Iaith Saesneg/ Cymraeg iaith gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Gallwch barhau gyda’ch astudiaethau Drama a Theatr yn y brifysgol neu mewn ysgol ddrama a gydnabyddir yn genedlaethol neu gael gwaith yn y diwydiannau Celfyddydau Perfformio.

Mae’r cwrs hefyd wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer dilyn dewisiadau gyrfaoedd eraill sy’n ymwneud â sgiliau dadansoddi, cyflwyno a chyfathrebu.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?