main logo

Astudiaethau Ffilm - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00072
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Cwrs Safon Uwch llinol dros 2 flynedd- pob asesiad ar ddiwedd yr ail flwyddyn
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Craidd yr holl astudiaethau ffilm yw cydnabyddiaeth bod ffilmiau’n cael eu cynhyrchu: fe’u llunir gan ddefnyddio ystod o elfennau – sinematograffeg, mise-en-scène, sain, golygu a pherfformiad (elfennau allweddol ffurf ffilm) – sy’n cael eu trefnu’n strwythurol o ran naratif a genre yn aml (elfennau strwythurol ffurf ffilm). Mae sut mae gwneuthurwyr ffilm yn defnyddio’r elfennau hyn, mewn ffyrdd artistig a chymhleth iawn yn aml, yn rhan fawr o’r hyn sy’n cael ei gyfri fel astudiaethau ffilm ffurfiol.

Yr un mor bwysig yw sut mae’r gwylwyr yn ymateb i’r gwaith mae gwneuthurwyr ffilmiau yn ei greu a sut mae dysgwyr yn dehongli’r ffilmiau gan gyfeirio at ymateb gwylwyr, cyd-destunau perthnasol, dulliau beirniadol a thrafodaethau. Yn eu tro mae’r astudiaethau ffurfiol hyn yn cael effaith uniongyrchol ar waith y dysgwyr eu hunain fel gwneuthurwyr ffilmiau a sgriptwyr ffilmiau.


Cydran 1: Amrywiaethau ffilm a chynhyrchu ffilmiau

● Adran A: Hollywood 1930-1990 (astudiaeth gymharol)
● Adran B: Ffilmiau Americanaidd ers 2005 (astudio dwy ffilm)
● Adran C: Ffilmiau Prydeinig ers 1995 (astudio dwy ffilm).


Cydran 2: Persbectif cynhyrchu ffilmiau byd-eang

● Adran A: Ffilmiau byd-eang (astudio dwy ffilm)
● Adran B: Ffilm ddogfennol
● Adran C: Datblygiadau ffilm – sinema fud
● Adran Ch: Datblygiadau ffilm – ffilmiau arbrofol (1960-2000)

Cydran 3: Cynhyrchu
Bydd y cynhyrchiad ar ffurf sgript ffilm yn yr ail flwyddyn. Rhaid i ddysgwyr ddarparu dadansoddiad gwerthuso’r cynhyrchiad hefyd, sy’n dadansoddi a gwerthuso’r sgript ffilm yng nghyswllt ffilmiau eraill wedi’u cynhyrchu’n broffesiynol.
Cydran 1: Amrywiaethau ffilm a chynhyrchu ffilmiau
Arholiad ysgrifenedig: 2½ awr
35% y cymhwyster

Cydran 2: Persbectif cynhyrchu ffilmiau byd-eang
Arholiad ysgrifenedig: 2½ awr
35% y cymhwyster

Cydran 3: Cynhyrchu
Asesiad di-arholiad
30% y cymhwyster
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

*Mae hwn yn lefel A llinol 2 flynedd (dim arholiad ar ddiwedd blwyddyn 1).

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Astudiaethau Ffilm Safon Uwch yn darparu sylfaen addas ar gyfer ystod o gyrsiau gradd a galwedigaethol addysg uwch neu’n arwain at gyflogaeth. Gallai hyn gynnwys gyrfaoedd yn y diwydiant ffilm, yn ogystal ag ym maes academia a chyhoeddi. Yn achos y rhai nad ydynt yn dymuno bwrw ymlaen ymhellach gydag Astudiaethau Ffilm mae’r cymhwyster hwn yn darparu cwrs astudio cydlynus, diddorol ac sydd o werth diwylliannol.
Efallai bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?