main logo

Cerddoriaeth - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00070
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

*Sylwer fod y cwrs hwn yn cael ei addysgu ar safle Glannau Dyfrdwy ac y bydd angen teithio. Siaradwch â'n tîm gwasanaethau myfyrwyr i drafod trefniadau.

Gellir astudio’r cwrs Uwch Gyfrannol fel cymhwyster blwyddyn ar ei ben ei hun neu fel hanner cyntaf cymhwyster Safon Uwch llawn dwy flynedd. Mae’r cwrs hwn yn heriol ac yn rhoi mwynhad a boddhad ac yn cynnig profiad gwerthfawr I chi os oes gennych chi ddiddordeb a dawn yn y maes hwn.

Mae’r cwrs yn eich galluogi I ddatblygu sgiliau cerddorol trwy amrywiaeth o weithgareddau. Bydd eich gwaith cwrs yn cynnwys astudiaethau megis cyfansoddi, arfarnu a pherfformiad ensemble a/neu unigol. Mae’r gweithiau gosodedig yn dod o’r traddodiad gorllewinol clasurol yn ogystal â cherddoriaeth boblogaidd yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Byddwch yn cymryd rhan mewn cyngherddau, gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol ac ymweliadau addysgol I gefnogi eich astudiaethau.


Uned 1 UG: Perfformio
Hyd y perfformiad: 6-8 munud
12% o’r cymhwyster
60 marc

Uned 2 UG: Cyfansoddi
Hyd y cyfansoddiadau: 3-6 munud
12% o’r cymhwyster Safon Uwch
54 marc

Uned 3 UG: Gwerthuso
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud
16% o’r cymhwyster

Uned 4 Safon Uwch: Perfformio
Dewis A: Hyd y perfformiad: 10-12 munud
Dewis A: 22% o’r cymhwyster
Dewis B: Hyd y perfformiad: 6-8 munud
Dewis B: 14% o’r cymhwyster

Uned 5 Safon Uwch: Cyfansoddi
Dewis A: Hyd y cyfansoddiad: 3-6 munud
Dewis A: 14% o’r cymhwyster
Dewis B: Hyd y cyfansoddiad: 5-9 munud
Dewis B: 22% o’r cymhwyster

Uned 6 Safon Uwch: Gwerthuso
Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 15 munud
24% o’r cymhwyster
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf) a Mathemateg a bodloni’r meini prawf canlynol:

– Gradd C/4 mewn TGAU Cerddoriaeth, neu Radd 5 Theori a’ch bod chi’n gallu darllen nodau cerdd a bod gennych chi radd 4 ymarferol mewn o leiaf un offeryn.

Sylwch: Os nad oes gan fyfyriwr gymwysterau ar bapur rhaid iddo gyfarfod â’r athro I drafod. Rydyn ni’n ymwybodol na fydd rhai myfyrwyr wedi cael y cyfle I gwblhau TGAU Cerddoriaeth cyn dechrau eu harholiadau Safon Uwch. Mae angen I fyfyrwyr drefnu I gael gwersi offerynnol/lleisiol unigol gan fod perfformio yn elfen hanfodol o’r cwrs. Efallai y bydd yr adran yn gallu cynorthwyo yn hyn o beth.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Gallwch barhau â’ch astudiaethau mewn prifysgol neu gael gwaith yn Niwydiannau’r Celfyddydau Perfformio fel perfformiwr, gweinyddwr, cyfansoddwr, therapydd cerddoriaeth, golygydd cerddoriaeth, rheolwr cerddorfa, llyfrgellydd cerddoriaeth, cyhoeddwr, cerddor sesiwn, beirniad, athro, cynhyrchydd, cyfeilydd ac ati.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?