main logo

Cymraeg (Ail Iaith) - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00060
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Ni all myfyrwyr sydd wedi cymryd naill ai Cymraeg Iaith 1af neu Lenyddiaeth Gymraeg 1af ddilyn y cwrs hwn. Rydym ni’n eich cynghori i gysylltu ag Ysgol Morgan Llwyd i astudio'r Gymraeg Iaith Gyntaf Safon Uwch. Efallai y byddwch chi’n gallu dyfeisio rhaglen astudio lle byddwch chi’n astudio'r cwrs hwn ochr yn ochr â'ch cymwysterau Safon Uwch eraill yn Chweched Iâl.

Dewch I astudio Cymraeg! Mae’r cwrs hwn ar gael I ddysgwyr llawn amser sydd eisiau astudio cwrs Cymraeg Ail Iaith UG/Safon Uwch. Mae manyleb Cymraeg Ail Iaith UG/Safon Uwch wedi’I llunio I annog myfyrwyr i:

1. Ddangos diddordeb, pleser a brwdfrydedd wrth astudio'r Gymraeg
2. Cyfathrebu'n gywir ac yn rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ystod eang o
sefyllfaoedd a chyd-destunau
3. Ysgrifennu'n greadigol a ffeithiol I amrywiaeth o bwrpasau
4. Dadansoddi testunau cyfarwydd ac anghyfarwydd yn annibynnol
5. Gwrando ac ymateb I farn eraill wth fynegi safbwynt
6. Mynegi barn yn annibynnol, yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth o ystod o
destunau llenyddol a ffeithiol
7. Ymateb yn glir, yn berthnasol, yn hyderus ac yn strwythuredig yn y Gymraeg
8. cymryd eu lle priodol mewn cymdeithas ddwyieithog ar ddechrau'r unfed ganrif ar
hugain.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cwblhau cwrs TGAU Cymraeg Ail Iaith yn barod. Mae’r cwrs hwn hefyd yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn diwylliant Cymru, yn benodol astudio ffilmiau, barddoniaeth a hanes Cymru. Pwrpas y fanyleb yw meithrin sgiliau cyfathrebu ymgeiswyr, gan gynnwys sgiliau ysgrifennu a siarad Cymraeg.
Bwriad y cwrs yw datblygu gallu myfyrwyr I ddefnyddio iaith yn llawn dychymyg. Anogir darllen yn eang, yn ogystal â dysgu darnau o waith llenyddol yn drwyadl. Mae’r gallu I ymateb I ddeunyddiau llenyddol a deunyddiau diwylliannol aml-gyfrwng cyfoes yn cael eu hyrwyddo er mwyn I fyfyrwyr werthfawrogi etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru. Cyhoeddodd CBAC gwrs newydd yn 2016-2017 a fydd yn apelio I fyfyrwyr sydd eisiau ehangu eu gwybodaeth o agweddau hynod ddiddorol o hanes a diwylliant Cymru, ac i’r rheiny sydd â diddordeb yng Nghymru gyfoes. Mae nifer o destunau'r cwrs hwn wedi’u moderneiddio I apelio at fyfyrwyr 16 oed neu’n hŷn.

Cysylltwch â Carys ar carys.roberts@cambria.ac.uk I weld os ydych chi’n addas ar gyfer y cwrs hwn neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gynnwys y cwrs. Mae’r cwrs hwn yn fwy addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi cyflawni gradd C neu uwch yn y cwrs llawn, ond gall myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs byr hefyd astudio’r cwrs hwn a byddan nhw’n cael cymorth wrth wneud hynny.
Y flwyddyn gyntaf o astudio:

Mae tri maes astudio sy’n seiliedig ar asesiadau craidd siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu:
CA1: Astudio ffilm o’r enw PATAGONIA ac arholiad llafar mewn grŵp o 2-3 o bobl, sy’n profi eich astudiaeth o’r ffilm. Bydd hefyd asesiad byr (unigol) gyda’r arholwr am eich pwnc gwaith cwrs dewisol.
CA2: GWAITH CWRS. Mae hwn wedi’I lunio I feithrin eich sgiliau ysgrifennu yn syml ond yn effeithiol yn y Gymraeg. Byddwch yn dewis pwnc sydd o ddiddordeb I chi, ac sy’n eich ysbrydoli chi. Mae’n rhaid bod gan y pwnc gysylltiad â Chymru e.e. cestyll, chwedlau, hanes, diwylliant.
CA3: Arholiad ysgrifenedig sy’n seiliedig ar RAMADEG a BARDDONIAETH. Byddwch yn ateb tri chwestiwn sy’n profi eich astudiaeth o ramadeg. Byddwch hefyd yn ysgrifennu am un gerdd rydych chi wedi’I dewis o’r 5 cerdd rydych chi wedi’u hastudio yn y dosbarth. Mae’r cerddi yn rhai difyr, cyfoes, ac yn galluogi myfyrwyr I ddysgu termau newydd a bod yn fwy rhugl yn y Gymraeg trwy astudio testunau llenyddol yr iaith.


Yr ail flwyddyn o astudio:

Mae tair uned i’w hastudio yn yr ail flwyddyn:
CA4: Astudio drama gyfoes Gymraeg o’r enw CRASH. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn arholiad llafar mewn grwpiau, gan ymateb I gwestiynau sy’n profi eu gwybodaeth am y ddrama. Byddan nhw hefyd yn sefyll arholiad unigol sy’n seiliedig ar astudiaeth o themâu Cymraeg y cwrs. Gelwir hyn yn GRYNODEB.
CA5: Arholiad ysgrifenedig 2 awr o hyd, sy’n profi’r meysydd canlynol: Y Gymraeg yn y Gymdeithas a Thrawsieithu. Yn yr uned hon, bydd gofyn I fyfyrwyr astudio hanes Cymru: gwleidyddol, cymdeithasol, ac ati. Mae’r uned hon hefyd yn cynnwys ymarfer sgiliau trawsieithu – nid cyfieithu – ond dehongli’r deunydd Saesneg trwy ymateb yn Gymraeg.
CA6: Arholiad ysgrifenedig 2 awr o hyd, sy’n seiliedig ar gyfres o brofion gramadeg, a rhan sy’n profi gwybodaeth am 4 stori fer Gymraeg, ac ymatebion, gan gynnwys cymharu traethodau a themâu cyferbyniol trwy gydol y cwrs Cymraeg.

Sgiliau: Mae pwyslais trwm ar sgiliau llafar a gwrando ym mhob gwers, ac mae llawer o gyfleoedd I fyfyrwyr weithio mewn parau a grwpiau, gyda’r cymhorthydd Cymraeg ac yn annibynnol. Mae sgiliau ysgrifenedig myfyrwyr yn cael eu meithrin yn systematig trwy gydol y cwrs, yn ogystal ag ymdopi a ffurfiau llafar ac ysgrifenedig yr iaith mewn ystod o gyd-destunau.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg.

Sylwer: Ni all ymgeiswyr sydd wedi gwneud TGAU Cymraeg / Llenyddiaeth Gymraeg (Iaith Gyntaf) wneud y Gymraeg fel ail iaith.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae pwysigrwydd astudio Cymraeg yn amlwg, beth bynnag fo’ch dyheadau gyrfa. Mae cyflogwyr rŵan yn nodi pa mor ddymunol yw cymhwyster Cymraeg yn eu hysbysebion swyddi. Efallai byddwch chi’n dewis astudio’r pwnc hwn ar gyfer eich boddhad eich hun, ond mae cael cymhwyster yn y Gymraeg yn gallu creu cyfleoedd swyddi megis addysgu, cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, a gweithio mewn busnesau lle mae gofyn i chi gyfathrebu yn Gymraeg.

Mae ieithoedd yn cyfuno’n dda gydag unrhyw bwnc, yn enwedig pan fo prifysgolion yn cynnig rhagor o gyfleoedd i barhau i astudio iaith. Mae gofyn am ddychymyg, hunanddisgyblaeth, a’r gallu i gyfathrebu wrth astudio iaith. Mae’r rhain yn nodweddion hynod ddymunol gan ddarpar gyflogwyr.
Efallai bydd angen prynu gwisg a/neu offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o fanylion.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?