main logo

Ffrangeg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00057
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o asutdio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs


Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb a brwdfrydedd dros ddysgu iaith.

Mae'r cwrs Ffrangeg Safon Uwch yn darparu llwybr dilyniant naturiol i fyfyrwyr sydd wedi astudio'r iaith ar lefel TGAU. Mae'r pedwar sgìl o wrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn cael eu datblygu ymhellach ac yn caniatáu i fyfyrwyr gael dealltwriaeth ddyfnach o'r iaith Ffrangeg.

Bydd myfyrwyr yn cael y gefnogaeth a'r anogaeth sydd eu hangen arnynt i ddod yn gyfathrebwyr hyderus, effeithiol ac i gymryd eu lle fel aelodau o’n cymdeithas fyd-eang amlieithog. Yn ogystal ag astudio amrywiaeth o bynciau cyfoes, mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gael cipolwg ar fyd sinema a llenyddiaeth Ffrainc.

Rydym yn darparu adnoddau rhagorol i'n myfyrwyr sy'n gwella eu profiad dysgu.


Rydym yn annog ein myfyrwyr i ymweld â Ffrainc a phrofi diwylliant a ffordd o fyw Ffrainc drostynt eu hunain. Oherwydd hyn, rydym yn cynnig cyfleoedd teithio i'n myfyrwyr ac maent yn cael eu hysbysu hefyd o gyfleoedd ar gyfer teithio annibynnol i Ffrainc, efallai ar brofiad gwaith neu gyrsiau astudio dramor. Rydym yn awyddus i roi cyfle i'n myfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau iaith yn ymarferol yma yn y coleg. Mae grwpiau bach yn gweithio bob wythnos gyda chymhorthydd iaith dramor yn ogystal â chael llawer o gyfleoedd i drafod a sgwrsio yn eu gwersi.
Ar lefel UG, bydd sgiliau siarad myfyrwyr yn cael eu hasesu, a byddant yn sefyll un papur arholiad sy’n cynnwys Gwrando, Darllen, Cyfieithu ac Ymateb Beirniadol Ysgrifenedig.

Ar lefel Safon Uwch, bydd sgiliau siarad myfyrwyr yn cael eu hasesu, a byddant yn sefyll dau arholiad ysgrifenedig ychwanegol sy’n cynnwys Gwrando, Darllen, Cyfieithu yn ogystal ag Ymateb Beirniadol a Dadansoddol Ysgrifenedig.
Os hoffech astudio Ffrangeg Safon Uwch, bydd angen i chi gael o leiaf 5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys iaith Saesneg / Cymraeg iaith gyntaf a Mathemateg ynghyd â bodloni’r meini prawf canlynol:

Gradd C/4 mewn TGAU Ffrangeg.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eicharholiadau TGAU. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Mae Ieithoedd Tramor Modern yn cael eu hadnabod fel cyrsiau “Safon Uwch Hwyluso”. Hynny yw, mae prifysgolion yn gweld gwerth mawr iddynt, gan gynnwys prifysgolion grŵp Russell.

Gall y cwrs hwn fod yn gam sylweddol tuag at astudiaeth bellach neu gyflogaeth. Yn naturiol, mae cymhwysedd mewn iaith dramor yn darparu nifer fawr o gyfleoedd gyrfa diderfyn gan fod yna brinder cenedlaethol mawr o siaradwyr Ffrangeg.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?