main logo

Iaith Saesneg - Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00055
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Lefel A yn ehangu gwybodaeth y myfyrwyr am agweddau astudio iaith a dyfnhau eu gwybodaeth o sut mae iaith yn gweithio. Mae myfyrwyr yn meithrin eu hymwybyddiaeth o brif elfennau a systemau iaith ac yn dysgu cymhwyso hyn at ddadansoddi ystod eang o destunau, llafar neu ysgrifenedig, o'r presennol neu o'r gorffennol. Mae myfyrwyr yn meithrin eu medrau ysgrifennu ac yn dysgu sut i addasu eu hiaith i gyd-fynd â gofynion y gynulleidfa, diben a genre.

Lefel UG - Uned 1
Archwilio Iaith (arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud)
Adran A: Dadansoddi iaith
Adran B: Gwerthuso defnydd o iaith

Lefel UG- Uned 2
Materion iaith ac Ysgrifennu Gwreiddiol (arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud)
Un cwestiwn gyda dwy ran iddo: un traethawd ar fater iaith ac
un dasg ysgrifennu wreiddiol yn gysylltiedig â’r mater iaith a ddewiswyd.

Safon Uwch (yr uchod a 3 uned ychwanegol)

Safon Uwch - Uned 3
Iaith Dros amser (arholiad ysgrifenedig: 2 awr 15 munud)
Adran A: Y newid mewn iaith dros amser
Adran B: Saesneg cyfoes

Safon Uwch - Uned 4
Testunau llafar ac ail-lunio creadigol (arholiad ysgrifenedig: 2 awr)
Adran A: Dadansoddi iaith lafar
Adran B: Ail-lunio Creadigol

Safon Uwch - Uned 5
Iaith a Hunaniaeth (asesiad di-arholiad: 2500-3500 gair)
Ymchwiliad yn seiliedig ar un o’r testunau a ganlyn:
• iaith a hunan-gynrychiolaeth
• Iaith a rhywedd
• iaith a diwylliant
• amrywiaeth iaith
Bydd ffug arholiad bob blwyddyn a gosodir aseiniadau’n rheolaidd.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Sylwer: Ni ellir ei gymryd ar y cyd ag Iaith a Llenyddiaeth Saesneg UG/Safon Uwch ar y cyd.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Saesneg Iaith yn berthnasol i ystod eang o gyrsiau addysg uwch a gyrfaoedd. Mae’n eich paratoi’n ardderchog ar gyfer unrhyw gwrs Saesneg mewn prifysgol. Bydd y sgiliau y byddwch yn eu meithrin drwy’r cwrs yn gwella eich defnydd o’r iaith Saesneg ac mae’n gwrs delfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn meysydd fel newyddiaduraeth a’r cyfryngau, y gyfraith ac addysgu.

Oherwydd bod y cwrs yn canolbwyntio ar fframweithiau iaith, mae felly’n ddefnyddiol iawn ar gyfer myfyrwyr sy’n ystyried astudio therapi lleferydd.
Efallai bydd angen prynu dillad a / neu offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr atodedig i gael rhagor o fanylion.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?