main logo

Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Cyfunol - Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00054
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs Iaith a Llenyddiaeth Saesneg cyfunol yn gwrs difyr, heriol a hynod lwyddiannus yn y coleg. Mae myfyrwyr yn dysgu dadansoddi a chymharu ystod eang o destunau - o farddoniaeth, drama, nofelau i newyddiaduriaeth a thestunau anllenyddol. Mae’r myfyrwyr yn dysgu geirfa ieithyddol a llenyddol, a gwybodaeth am gyd-destun ysgrifennu a chyhoeddi’r testunau.

Lefel UG
Mae Adran 1 UG yn cynnwys:
• Astudio detholiad o farddoniaeth;
• Dadansoddi testunau nad ydynt wedi’u gweld o’r blaen o sawl genre, er mwyn meithrin sgiliau cymharu;
• Ysgrifennu creadigol mewn sawl genre, ynghyd â meithrin sgiliau i ysgrifennu sylwebaethau.

Mae Adran 2 UG yn cynnwys:
• Astudiaeth fanwl o destun drama;
• Astudiaeth fanwl o destun anllenyddol.

Lefel Safon Uwch
Mae Adran 3 Safon Uwch yn cynnwys:
• Testun gan Shakespeare. Yn yr arholiad dwy awr, bydd gofyn i chi ddadansoddi detholiad ohono’n fanwl, yn ogystal ag ysgrifennu traethawd estynedig.

Mae Adran 4 Safon Uwch yn cynnwys:
• Astudio gwahanol fathau o destunau ac o gyfnodau gwahanol, nad ydych wedi’u gweld o’r blaen, sy’n cynnwys testunau llafar; ac
• Astudio testun rhyddiaith. Bydd yn cael ei asesu trwy arholiad ysgrifenedig dwy awr o hyd.

Ar gyfer Adran 5, mae hi’n ofynnol eich bod yn cyflwyno:
• Dau ddarn o waith cwrs, sy’n cynnwys traethawd 1500-2000 o eiriau a darn ysgrifennu creadigol 1000-1500 o eiriau.
Bydd 2 arholiad dwy awr yn yr Haf ar gyfer lefel UG.
Ar lefel Safon Uwch, byddwch yn cyflwyno gwaith cwrs ac yn sefyll 2 arholiad dwy awr yn yr Haf.

Bydd Ffug arholiadau yn cael eu cynnal ym mis Rhagfyr a Mawrth
Bydd ffug arholiadau yn cael eu cynnal ym mis Ionawr (UG) ac ym mis Chwefror (Safon Uwch).
5 TGAU gradd C/gradd 4 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, a Mathemateg.

Sylwer: Ni ellir ei gymryd ar y cyd ag Iaith Saesneg UG/Safon Uwch neu Lenyddiaeth Saesneg UG/Safon Uwch.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae’r cwrs Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Cyfunol yn eich paratoi’n drylwyr ar gyfer nifer o gyrsiau gradd yn y Dyniaethau.

Mae’r rhain yn cynnwys: Saesneg (Iaith neu Lenyddiaeth, neu gwrs cyfunol); Ieithyddiaeth; Newyddiaduriaeth; ac Addysg. Mae cymhwyster Saesneg Safon Uwch yn fantais wych ar gyfer unrhyw yrfa lle mae angen i chi fynegi eich hunan yn dda, a defnyddio sgiliau dadansoddi. Felly, dyma gymhwyster hynod ddefnyddiol pan fyddwch yn gwneud cais am le ar gyrsiau megis Hanes, y Gyfraith, Cymdeithaseg, Gwleidyddiaeth, Clasuron, a llawer rhagor.
Efallai bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?