Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno symud ymlaen at gyrsiau addysg uwch neu i weithio, lle byddai gwybodaeth am gyfrifiadureg o fudd iddynt. Yn yr oes gynyddol dechnolegol hon, byddai astudio cyfrifiadureg, ac yn enwedig sut caiff cyfrifiaduron eu defnyddio i ddatrys nifer o broblemau, yn werthfawr. Mae’r cwrs hwn, gyda’i bwyslais ar haniaethu, dadelfennu, rhesymeg fathemategol ac algorithmau, cynrychioli data a meddwl yn fathemategol neu’n beirianyddol, yn sylfaen dda ar gyfer deall heriau’r dyfodol hyn.
Mae’r cwrs Safon Uwch mewn Cyfrifiadureg yn annog dysgwyr i feithrin:
• dealltwriaeth oegwyddorion a chysyniadau sylfaenol cyfrifiadureg a'r gallu i’w cymhwyso, gan gynnwys haniaethu, dadelfennu, rhesymeg, algorithmau a chynrychioli data
• y gallu i ddadansoddi problemau yn nhermau cyfrifiannu trwy brofiad ymarferol o ddatrys problemau o'r fath, gan gynnwys methodoleg sy’n canolbwyntio ar wrthrychau.
• y gallu i feddwl yn greadigol, arloesol, dadansoddol, rhesymegol a beirniadol
• y gallu i weld perthnasoedd rhwng agweddau gwahanol ar gyfrifiadureg
• sgiliau mathemategol, cyfrifiadureg sy’n defnyddio mathemateg i fynegi ei gyfreithiau a phrosesau cyfrifiannol e.e. algebra Boolean, cymharu cymhlethdodau algorithmau,cynrychioliadau rhifau a seiliau.
• y gallu i fynegi cyfleoedd unigol (moesol), cymdeithasol (moesegol), cyfreithiol a diwylliannol a risgiau technoleg ddigidol.
Mae cyfrifiadureg yn integreiddio'n dda â phynciau ar draws y cwricwlwm. Mae'n galw am ddisgyblaeth resymegol a chreadigedd ddychmygus wrth ddethol a dylunio algorithmau ac ysgrifennu, profi a dadfygio rhaglenni. Mae'n dibynnu ar ddeall rheolau iaith ar lefel sylfaenol; mae'n annog ymwybyddiaeth o'r ffordd mae systemau cyfrifiadurol yn cael eu rheoli a'u trefnu.
Gallwch astudio cyfrifiadureg ac yna mynd ymlaen i ddilyn gyrfa mewn peirianneg, busnes, gwaith fforensig, gemau, amlgyfrwng, neu unrhyw fath o wyddoniaeth.
Lefel UG (40% y cymhwyster Safon Uwch lawn)
Uned 1 – Hanfodion Cyfrifiadureg. Mae’r uned hon yn edrych ar saernïaeth gyfrifiadurol, cyfathrebu, cynrychioli data, strwythurau data, meddalwedd gwasanaethu, rhaglenni, algorithmau, rhesymeg, dulliau rhaglennu ac effaith cyfrifiadureg ar gymdeithas.
Uned 2 – Rhaglennu Ymarferol i Ddatrys Problemau. Mae’r uned hon yn cynnwys cyfres o dasgau wedi’u gosod i’w cwblhau ar y sgrin gan ymgeiswyr. Bydd y tasgau hyn yn asesu cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth yn ymarferol a bydd angen defnyddio Visual Basic.Net fel iaith raglennu.
Lefel Uwch (yr uchod a 3 uned ychwanegol)
Lefel Safon Uwch (60% y cymhwyster Safon Uwch lawn)
Uned 3 – Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar ddadansoddi algorithmau, strwythurau data, algorithmau, rhesymeg, dulliau rhaglennu ac effaith cyfrifiadureg ar gymdeithas.
Uned 4 – Mae’r uned Saernïaeth Gyfrifiadurol, Data, Cyfathrebu a Chymwysiadau yn edrych ar saernïaeth gyfrifiadurol, cynrychioli data, trefn a strwythur data, rhaglenni, algorithmau a meddalwedd rhaglenni.
Uned 5 – Rhaglennu Datrysiad i Broblem - sy’n uned na chaiff ei harholi lle mae’r ymgeiswyr yn trafod, ymchwilio, dylunio, prototeipio, mireinio a gweithredu, profi a gwerthuso datrysiad cyfrifiadurol o’u dewis eu hunain. Mae'n rhaid i
i hyn ddefnyddio cod (rhaglennu) gwreiddiol. Dyma ddarn sylweddol o waith i’w gwblhau dros gyfnod estynedig.
Y prif iaith raglennu ar gyfer Cyfrifiadureg UG/Safon Uwch yw Visual Basic.net 2015. Ond defnyddir nifer o ieithoedd gwahanol ar lefel Safon Uwch.