main logo

Economeg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00049
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Yn ystod dwy flynedd y rhaglen Safon Uwch, bydd myfyrwyr yn ymdrin â phynciau sy’n cynnwys Cyflwyniad i Egwyddorion Economaidd ac Economeg ar Waith. Mae'r ddau gwrs yma’n cyfrif am 40% o gyfanswm y cwrs Safon Uwch.

Ar Lefel Safon Uwch, bydd y ddau bwnc ‘Archwilio Ymddygiad Economaidd’, a ‘Gwerthuso Modelau Economaidd’ yn 60% o'r cwrs. Caiff y rhaglen ei chyflwyno mewn modd amrywiol a diddorol, gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, siaradwyr gwadd, tiwtorialau yn ogystal â theithiau a chynadleddau a gafodd eu llunio’n benodol ar gyfer myfyrwyr UG a Safon Uwch.
Trwy gydol y cwrs, bydd tiwtoriaid yn asesu cynnydd myfyrwyr gan ddefnyddio dulliau amrywiol gan gynnwys traethodau, astudiaethau achos, adroddiadau, profion ac arholiadau. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i wirio’u cynnydd yn ogystal â helpu i ganfod a datrys unrhyw anawsterau.

Cyflawnir y cymwysterau UG a Safon Uwch trwy lwyddo yn yr arholiadau ar gyfer pob uned.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf) a bodloni’r meini prawf canlynol:

– Gradd B/6 neu uwch mewn TGAU Mathemateg haen uwch.

*Rydym yn awgrymu I ymgeiswyr astudio Mathemateg Safon Uwch os ydynt yn dymuno astudio Economeg yn y brifysgol.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Economeg yn bwnc da i gyd-fynd â chyrsiau gwyddorau cymdeithasol fel Gwleidyddiaeth a Llywodraeth, neu bynciau Gwyddoniaeth, Mathemateg a Chelf. Gyda chyrsiau Mathemateg a Ffiseg, gall arwain at Beirianneg, neu gydag ieithoedd, gall fod yn sylfaen gwych ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn gweithio dramor. Bydd Economeg yn hynod ddefnyddio i’r rheiny sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym meysydd cyllid a chyfrifeg. Mae sawl corff proffesiynol fel y Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yn gofyn am ddealltwriaeth o economeg i gymhwyso yn y proffesiwn.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisgoedd ar rai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodah.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?