main logo

Mathemateg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00035
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Mathemateg Safon Uwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau mewn ystod o gwestiynau sy'n gofyn am ddefnyddio dadleuon mathemategol, gwybodaeth a phrawf, datrys problemau, modelu a defnyddio data mewn ystadegau. Byddwch yn dysgu adnabod sut y gall sefyllfa gael ei chynrychioli’n fathemategol a deall y berthynas rhwng problemau 'byd go iawn' a modelau mathemategol safonol.

Byddwch hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth o berthnasedd mathemateg i feysydd astudio eraill, i fyd gwaith ac i gymdeithas yn gyffredinol.
Mae Mathemateg Safon Uwch yn cefnogi pynciau Safon Uwch eraill fel Bioleg, Cemeg, Ffiseg ac Economeg hefyd.

Mae Mathemateg Bellach UG/Safon Uwch yn cael ei hargymell ar gyfer mathemategwyr galluog ac mae'n opsiwn sy’n cael ei ffafrio’n gynyddol mewn llawer o brifysgolion i'r rhai sy'n bwriadu astudio pynciau fel Ffiseg, Peirianneg neu Gemeg.
Ar lefel UG caiff Uned 1 ei asesu drwy bapur ysgrifenedig 2.5 awr yn seiliedig ar Fathemateg Bur; mae uned 2 yn ymwneud a Mathemateg gymhwysol a gan adran ar ystadegau ac adran yn seiliedig ar Fecaneg. Mae papur uned 2 yn 1.75 awr.

Mae uned 1 werth 25% ac uned 2 werth 15% o’r cymhwyster llawn.

Ar lefel safon uwch, caiff unedau 3 a 4 eu hasesu trwy ddau bapur ysgrifenedig. Asesir uned 3 trwy bapur ysgrifenedig 2.5 awr yn seiliedig ar Fathemateg Pur; mae uned 4 yn archwilio mathemateg gymhwysol a gan adran yn seiliedig ar ystadegau ac adran ar Hafaliadau differol, Dulliau rhifiadol a Mecaneg. Mae papur uned 4 yn 1.75 awr.

Mae uned 3 werth 35% ac uned 4 werth 25% o’r cymhwyster llawn.

Byddwn yn cynnal arholiadau ffug mewnol ar ddyddiadau a gyhoeddir i roi profiad realistig o arholiadau i’r myfyrwyr.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf) a bodloni’r meini prawf canlynol:

– TGAU Mathemateg gradd B/6 neu uwch ar haen uch.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Mathemateg safon uwch yn berthnasol i ystod eang o gyrsiau addysg uwch. Byddai Mathemateg yn gymhwyster dymunol mewn nifer o alwedigaethau; Y Gwasanaeth Sifil, cyllid, bancio, mewn cyfrifiadureg, gwaith technegol, gwyddonol a pheirianneg, ac mewn sefydliadau llywodraethol a datblygiadol.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?