main logo

Llywodraeth a Gwleidyddiaeth - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00043
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Gwleidyddiaeth yn bwnc Safon Uwch mawr ei fri, ac yn bwnc newydd diddorol a deinamig i’w astudio, a fydd yn rhoi nifer o sgiliau i chi y bydd prifysgolion yn eu croesawu ac yn eich galluogi i symud ymlaen i ddewis eang o gyrsiau a gyrfaoedd yn y dyfodol.

Blwyddyn 1 Lefel UG
Gwleidyddiaeth Cymru a Phrydain yw’r prif faes astudio gyda’r cwestiynau allweddol i’w hystyried yn ymwneud a’r cyfansoddiad, y llywodraeth a’i phwerau datganoledig o ran: sofraniaeth, pŵer a hygrededd – lle gorwedd y pŵer yn system wleidyddol Prydain? Pwy a sut y mae’r rhai mewn pŵer yn cael eu dal yn atebol? Sut mae dylanwadau’r tu allan yn effeithio arnom hynny yw aelodaeth o’r UE? Beth mae dinasyddiaeth yn ei olygu yn y DU? Beth yw hawliau ein dinasyddion a sut allwn ni ddylanwadu ac effeithio ar brosesau gwleidyddol?

Blwyddyn 2 – Safon Uwch
Mae’r flwyddyn Safon Uwch yn astudiaeth gyfunol o gysyniadau gwleidyddol a damcaniaethau yn archwilio amrediad o ideolegau fel Sosialaeth a Chomiwnyddiaeth, Ceidwadaeth a Rhyddfrydiaeth ac yna llywodraeth a gwleidyddiaeth Unol Daleithiau America gan gwestiynu pŵer, democratiaeth a chyfranogiad yn y system wleidyddol.

Gweithgareddau Allgyrsiol
Mae pob myfyriwr yn cael y cyfle i feithrin eu diddordebau a pharatoi eu hunain ar gyfer mynd i brifysgol a dechrau ar eu gyrfa. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys tripiau i gynadleddau a Llundain (y Senedd) neu Gynulliad Cymru yng Nghaerdydd ac ymweliadau a chyfle i holi nifer o siaradwyr gwadd gan gynnwys ASau, ASEau ac ACau.
Bydd y cwrs UG a Safon Uwch yn cael eu hasesu gan arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn. Nid oes unrhyw waith cwrs, ond mae’r adran yn defnyddio arholiadau ffug i baratoi’r myfyrwyr ar gyfer asesiad allanol a gosodir cwestiynau a geir yn rheolaidd mewn arholiadau.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae’r sgiliau y byddwch yn eu meithrin yn werthfawr iawn mewn nifer o yrfaoedd. Mae cyflogwyr yn edrych yn ffafriol ar fyfyrwyr Gwleidyddiaeth gan eu bod yn tueddu i fod â sgiliau dadansoddi cadarn. Mae gyrfaoedd perthnasol yn cynnwys:

– Y Gyfraith
– Newyddiaduraeth a darlledu
– Rheoli busnes a chyllid, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata
– Gweinyddiaeth y Gwasanaeth Sifil, llywodraeth leol, y Gwasanaeth Iechyd
– Gwaith cymdeithasol
– Y lluoedd arfog a’r heddlu
– Gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd neu sefydliadau gwleidyddol eraill fel Cynulliad Cymru
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?