main logo

Dinasyddiaeth Glasurol - Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00042
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Cwrs Safon Uwch llinol 2 flynedd – bydd pob asesiad ar ddiwedd yr ail flwyddyn.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Diwylliant Clasurol yn bwnc amrywiol sy’n cynnwys: hanes, llenyddiaeth, mythau, crefydd, gwleidyddiaeth, athroniaeth a diwylliant y Groegiaid a’r Rhufeiniaid. Y nod yw rhoi dealltwriaeth fanwl i’r myfyrwyr o’r byd hynod o ddiddorol yma ac i werthfawrogi ei ddylanwad enfawr. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol wrth ddewis y pwnc ar gyfer Safon Uwch. Byddwn yn cynnwys llawer o bobl a digwyddiadau enwocaf Gwlad Groeg a Rhufain, gan gynnwys Rhyfel Caerdroea, Oidipos, Cesar, Awgwstws ac Antony a Cleopatra. Yn ystod eich astudiaethau, byddwn yn eich annog i feithrin meddwl beirniadol a sgiliau dadansoddi i wneud synnwyr o’r digwyddiadau a’r personoliaethau hyn. Byddwch yn ceisio ystyried diwylliant sy'n delio â rhai agweddau sylfaenol o fodolaeth ddynol mewn ffordd wahanol iawn, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig. Dylai hyn fod yn werth chweil ac yn werthfawr.

UNED UG 1 - Byd yr Arwr (HOMER, YR ODYSEIA)
Faint fedrith dyn ei ddioddef oherwydd ei gariad at ei wraig a’i gartref?
Mae’r Odyseia yn arwrgerdd enwog sy’n ymdrin â myth Groegaidd. Ystyrir gwaith Homer fel man dechrau holl lenyddiaeth yr henfyd ac mae astudio ei chwedlau am dduwiau Gwlad Groeg ac anturiaethau arwyr fel Odysseus, Achilles ac Agamemnon, yn ein galluogi i ystyried arferion a systemau gwerthoedd Gwlad Groeg. Byddwn yn ystyried sut mae Odysseus y prif gymeriad yn dygymod â’r llu o sialensiau a osodir iddo, a’i ystyried ef ac eraill yn yr arwrgerdd, trwy eu gweithredoedd a’u hymddygiad.

UNED UG 2 - Diwylliant a’r Celfyddydau (Trasiedi Groegaidd a Chomedi mewn cyd-destun)
Pa mor sicr yw cyflawniadau mawr dyn?
Mae Trasiedi Groegaidd yn eich cyflwyno i’r cynyrchiadau dramatig mwyaf pwerus a berfformiwyd erioed. Mae themâu dramâu Sophocles a Euripides yn parhau i atseinio heddiw ac yn gyfanfydol. Mae Oedipws y Brenin yn delio gyda themâu pŵer a balchder; Bacchae gyda’r duwiau a’u pŵer. Mae’r holl ddramâu trasig yn gofyn cwestiynau sylfaenol ynghylch bodolaeth ddynol a phrofiad.

UNED UG 3: Byd yr Arwr (Epig Romanaidd)
Ydy rhyddid yn bris werth ei dalu am heddwch?
Mae’r Epig Romanaidd yn canolbwyntio ar ymerawdwr cyntaf Rhufain: Awgwstws. Mae’n enwog am ddod â heddwch i Rufain, ond mae’r digwyddiadau sy’n diffinio’r ‘Oes Awgwstaidd’ yn rhai o’r rhai mwyaf cofiadwy mewn hanes. Llofruddio Iŵl Cesar, Antony a Cleopatra, ymgyrchoedd Hannibal yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig; dyma beth wnaeth ddiffinio’r cymeriad Rhufeinig. Byddwn yn canolbwyntio ar gerdd epig Virgil ‘Yr Aeneid’.

UNED AG 4: Democratiaeth a’r Atheniaid
Bedd oedd yn radical ynghylch cymdeithas Athenaidd?
Byddwn yn edrych ar sut mae democratiaeth wedi treiddio i mewn i hunaniaeth Athenaidd, sut y’i dathlwyd a’i ddelfrydoli ond hefyd sut cafodd ei feirniadu. Gall y cysyniad o arweinwyr poblogaidd sy’n camarwain y bobl, neu’n rhoi iddynt beth maen nhw eisiau yn hytrach na beth maen nhw ei angen, a’r cyhoedd â hawl i bleidleisio sydd efallai ddim yn hysbys ynghylch materion, yn atseinio hyd heddiw. Yn olaf byddwch yn astudio darnau o gomedïau Aristophanes, y gall ei feddwl craff a dychan ddal gyfareddu cynulleidfa fodern heddiw.
Mae arholiad UG ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Mae hyn yn arfer dda ac yn gymhwyster sydd werth pwyntiau UCAS. Nid yw’n cyfrif tuag at y Safon Uwch. Yn hytrach mae’r arholiadau safon uwch ar ddiwedd yr ail flwyddyn, pan fo myfyrwyr wedi cael digon o amser i ymdrwytho eu hunain yn y pwnc a datblygu’n llawn. Mae cwestiynau’n gymysgedd o atebion byr a thraethodau.
5 TGAU gradd C/gradd 4 neu uwch, gan gynnwys TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, a TGAU Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Gwareiddiad Clasurol yn bwnc uchel ei barch gan brifysgolion a chyflogwyr gan ei fod yn academaidd a manwl, gyda phwyslais ar werthuso a dadansoddi. Ystyrir myfyrwyr gyda graddau da i fod â sgiliau lefel uwch a’r gallu i ganfod cyflogaeth mewn nifer o feysydd megis newyddiaduraeth, marchnata, y gyfraith, dysgu, y Gwasanaeth Sifil a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Mae Gwareiddiad Clasurol yn creu myfyrwyr amryddawn y mae ei gallu i feddwl yn feirniadol a chyfathrebu’n ddealladwy yn sgiliau y mae galw mawr amdanynt yn y gweithle.
Efallai bydd angen prynu gwisg a/neu offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o fanylion.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?