main logo

Ffiseg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00033
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Rydym yn dilyn maes llafur UG Ffiseg CBAC yng Ngholeg Cambria.
Mae’n cynnwys dwy uned theori sy'n cael eu harholi ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Mae tair uned ychwanegol yn cael eu hastudio gan y myfyrwyr hynny sy'n dymuno ennill cymhwyster Safon Uwch llawn yn ail flwyddyn y cwrs. Mae un o unedau’r ail flwyddyn yn arholiad ymarferol.
Dyma grynodeb byr o’r cwrs isod:

Uned 1 Mudiant, Egni a Mater: Mae hyn yn cynnwys y pynciau Ffiseg sylfaenol, Cinemateg, Dynameg, Cysyniadau egni, Solidau dan ddiriant, defnyddio pelydriad i ymchwilio i sêr, Gronynnau ac adeiledd niwclear.

Uned 2 Trydan a Golau: Mae hyn yn cynnwys y pynciau: Dargludiad trydan, Gwrthiant, Cylchedau CU, Natur tonnau, Priodweddau tonnau, Plygiant golau, Ffotonau a Laserau

Uned 3 (Osgiliadau a Niwclysau): Mae hyn yn cynnwys y pynciau: Mudiant cylchol, Dirgryniadau, Damcaniaeth ginetig, Ffiseg thermol, Dadfeiliad niwclear ac Egni niwclear.

Uned 4 Meysydd ac Opsiynau: Mae hyn yn cynnwys y pynciau: Cynhwysiant, Meysydd grym electrostatig a meysydd disgyrchiant, Orbitau a'r bydysawd ehangach, Meysydd magnetig ac Anwythiad electromagnetig.

Uned 5: Uned Ffiseg Ymarferol. Yn ogystal â’r ymarferion ymarferol a nodwyd gan CBAC, byddwch hefyd yn ymgymryd ag ystod o waith ymarferol I ategu unedau theori. Bydd gofyn I fyfyrwyr gadw ffeil drefnus o’u gwaith labordy I baratoi ar gyfer asesiad yr uned hon.
Mae Unedau 1 a 2 yn cael eu hasesu trwy bapur ysgrifenedig 1½ awr gyda chwestiynau a fydd yn ymwneud â phrofiad ymarferol. Bydd y ddwy uned yn cyfrannu’n gyfartal i’r cymhwyster UG a gyda’i gilydd yn ffurfio 40% o’r cymhwyster safon uwch llawn.

Caiff unedau 3 a 4 eu hasesu trwy bapurau ysgrifenedig. Mae papur uned 3 yn 2.25 awr sy’n cynnwys cwestiwn darllen a deall. Caiff uned 4 ei asesu trwy bapur 2 awr o hyd.

Yn y papurau ar gyfer unedau 1-4 bydd cwestiynau’n seiliedig ar waith ymarferol penodol a wnaed trwy gydol y cwrs.
Mae Uned 5 yn arholiad ymarferol ar ddechrau tymor yr Haf sy’n ffurfio 10% o’r cymhwyster Safon uwch.

Byddwn yn gosod ffug arholiadau mewnol hefyd ar ddyddiadau i’w cyhoeddi i roi profiad arholiad realistig i fyfyrwyr.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf) a bodloni’r meini prawf canlynol:

– TGAU Mathemateg gradd B/6 neu uwch ar haen uwch

– TGAU gwyddoniaeth gradd B/6 neu uwch ar haen uwch yn y wyddoniaeth yr ydych am ei hastudio

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog I wneud eich gorau yn eich arholiadau. Po orau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gall olygu y byddwch yn gallu mynd ymlaen I astudio cwrs lefel uwch.
Mae Ffisegwyr yn bobl amryddawn iawn ac mae ganddynt ystod eang o sgiliau. Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth uchel iawn ar gymwysterau Ffiseg ac, o ganlyniad i hynny, trwy astudio Ffiseg UG / Safon Uwch, bydd cyfle i fyfyrwyr Ffiseg fynd ymlaen i nifer rhyfeddol o swyddi amrywiol.

Dylid nodi bod cael cymhwyster Ffiseg Safon Uwch yn hanfodol ar gyfer symud ymlaen i rai cyrsiau prifysgol (fel pob math o gyrsiau peirianneg) yn ogystal â bod yn bwnc hanfodol i fyfyrwyr sydd am ddechrau ar gyrsiau prentisiaeth israddedig, fel yr hyn a gynigir gan y cyflogwr lleol Airbus.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?