main logo

Cemeg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00031
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Cemeg yn ymwneud ag astudio deunyddiau, eu nodweddion, adweithiau a’u defnyddiau. Bydd pob myfyriwr sy’n astudio Cemeg yng Ngholeg Cambria yn cael eu hannog i feithrin eu sgiliau personol a threfniadol trwy eu dysgu ac i anelu at gyflawni eu potensial academaidd.

Mae elfen ymarferol fawr i’r cwrs ac mae’r theori a gwaith ymarferol wedi eu hintegreiddio’n dda. Bydd y myfyrwyr yn gweithio’n annibynnol ac fel rhan o grŵp gyda’r rhain. Mae ein myfyrwyr Cemeg hefyd yn mwynhau cymryd rhan mewn profiadau cysylltiedig fel cystadlaethau Dadansoddwr Ifanc y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Cwis Chemnet, gweithdai sbectrosgopeg, dosbarthiadau meistr prifysgolion a Chymdeithas Wyddoniaeth a Mathemateg Pennant.

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus bydd y myfyrwyr wedi magu hyder mewn rhyngweithio ag eraill; byddant yn gallu rhesymu’n rhesymegol a byddant wedi meithrin yr arfer gwerthfawr o ddulliau a diogelwch ymchwiliol wrth weithio dan amodau labordy.

Mae'r cwrs UG / Safon Uwch Cemeg yn dilyn manyleb CBAC ac mae'n adeiladu ar y pynciau a astudiwyd ar gyfer TGAU. Mae'r Lefel UG yn cynnwys dwy uned sy'n cael eu harholi ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Mae tair uned ychwanegol yn cael eu hastudio gan y myfyrwyr hynny sy'n dymuno ennill cymhwyster Safon Uwch llawn yn ail flwyddyn y cwrs. Mae un o unedau’r ail flwyddyn yn cynnwys arholiad ymarferol. Mae crynodeb o gynnwys y cwrs ar gael isod.

Uned 1: Iaith Cemeg, adeiledd mater ac adweithiau cemegol. Fformiwlâu a hafaliadau, strwythur atomig, cyfrifiadau, bondio, adeileddau solidau, dosbarthiad elfennau yn y Tabl Elfennau, ecwilibria ac adweithiau asid-bas.

Uned 2: Egni, cyfraddau adweithio a chemeg cyfansoddion carbon. Dadansoddiad thermocemegol a chinetig, effaith ehangach cemeg mewn cymdeithas, cyfansoddion organig gan gynnwys hydrocarbonau, halogenoalcanau, alcoholau ac asidau carboscilig, defnyddio offer i ddadansoddi.

Uned 3: Cemeg Ffisegol ac Anorganig. Rhydocs a photensial electrod safonol, cemeg y blociau p a d, newidiadau enthalpi, entropi a dichonoldeb adweithiau, cysonion ecwilibriwm, ecwilibria asid-bas

Uned 4: Cemeg organig a dadansoddi, stereoisomeredd, aomatigedd, alcohol a ffenol, aldehydau a chetonau, asidau carbocsilig a'u deilliadau, aminau, asidau amino, peptidau a phroteinau, synthesis organig a dadansoddi.

Uned 5 – Uned Gemeg Ymarferol:- yn ogystal â’r ymarferion ymarferol penodol gan CBAC, byddwch yn ymgymryd ag ystod eang o waith ymarferol i ategu’r unedau theori. Bydd gofyn i fyfyrwyr gadw ffeil drefnus o’u gwaith labordy i baratoi ar gyfer asesiad yr uned hon.
Bydd Unedau 1 a 2 yn cael eu hasesu trwy arholiad ysgrifenedig 1½ awr, gyda chwestiynau perthnasol i’ch profiad ymarferol. Bydd y ddwy uned yn cyfrannu’n gyfartal i’r cymhwyster UG a gyda’i gilydd byddant yn ffurfio 40% o’r cymhwyster safon uwch llawn.

Bydd Unedau 3 a 4 yn cael eu hasesu trwy arholiad ysgrifenedig 1¾ awr. Bydd y ddwy uned gyda’i gilydd yn ffurfio 50% o’r cymhwyster safon uwch llawn.
Yn y papurau ar gyfer unedau 1-4 bydd cwestiynau’n seiliedig ar waith ymarferol penodol a wneir trwy gydol y cwrs.

Bydd Uned 5 yn cynnwys dau brawf sy’n cael eu marcio’n allanol gan CBAC; Tasg Arbrofol a Thasg Dadansoddi Data. Mae’r ddwy dasg yn cael eu gosod ar ddechrau tymor yr haf.

Byddwn yn cynnal arholiadau ffug mewnol ar ddyddiadau i’w cyhoeddi, I roi profiad realistig o amodau ac arferion arholiadau i’r myfyrwyr.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf) a bodloni’r meini prawf canlynol:

– Gradd B/6 neu uwch mewn TGAU Mathemateg haen uwch. 
– Gradd B/6 neu uwch mewn TGAU Gwyddoniaeth haen uwch yn y Wyddoniaeth rydych yn dymuno ei hastudio.

*Rydym yn argymell I fyfyrwyr gymryd Cemeg Safon Uwch ochr yn ochr â Mathemateg Safon Uwch a/neu bynciau Gwyddoniaeth eraill.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud y gorau y gallwch yn eich arholiadau. Po orau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gall olygu y byddwch yn cael mynediad I gwrs lefel uwch.
Mae Cemeg Safon Uwch yn cael ei dderbyn fel cymhwyster academaidd cydnabyddedig ar gyfer mynediad i bob sefydliad Addysg Uwch ac mae’n darparu cefnogaeth hanfodol ar gyfer cyrsiau gradd mewn Meddygaeth, Deintyddiaeth, Gwyddor Filfeddygol, Fferylliaeth, Peirianneg Gemegol a Gwyddorau Biofeddygol.
Efallai bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?