main logo

Bioleg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA01143
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

A yw hi’n ddiogel bwyta bwydydd wedi’u haddasu’n enynnol? A yw’n bosibl clonio bodau dynol? Beth fedrwn ni ei wneud ynghylch cynhesu byd-eang? A fedrwn ni ddod o hyd i ffordd o wella AIDS? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cwestiynau fel hyn, yna Bioleg ydi’r pwnc i chi.

Bydd digon o sesiynau ymarferol yn y labordy a byddwch yn defnyddio’r rhain i’ch cynorthwyo i ddatblygu sgiliau ar gyfer eich arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Bydd y meysydd y byddwch chi’n eu hastudio yn cynnwys – y galon, clefydau, y system dreulio, DNA, rhaniad celloedd, y system nerfol, dosbarthiad a bioamrywiaeth. Hefyd byddwch yn edrych ar – twf y boblogaeth, ffotosynthesis, resbiradaeth, etifeddiaeth enynnol, technoleg genynnau ac olion bysedd genynnol.

Mae’r cwrs Bioleg Uwch Gyfrannol / Safon Uwch yn dilyn manyleb CBAC ac yn adeiladu ar yr agweddau a gwmpaswyd yn y cwrs TGAU. Mae’r meysydd astudio Uwch Gyfrannol yn cynnwys strwythur celloedd, maethiad a chludiant mewn planhigion ac anifeiliaid. Mae astudio’r cwrs Safon Uwch yn ymestyn i ystyried cymhwyso Bioleg yn ehangach, megis microbioleg, homeostasis, geneteg a therapi genynnol. Cyflwynir y topigau hyn trwy ddau fodiwl theori ym mhob blwyddyn y rhaglen.

Uned 1: Biocemeg sylfaenol a threfniadaeth celloedd: moleciwlau biolegol, strwythur a threfniadaeth celloedd, cellbilennau a chludiant, adweithiau biolegol wedi’u rheoli gan ensymau, asidau niwcleig a’u swyddogaethau, mitosis a meiosis.

Uned 2: Bioamrywiaeth a ffisioleg systemau’r corff:
Dosbarthu a bioamrywiaeth, addasiadau ar gyfer cyfnewid nwyon, addasiadau ar gyfer cludiant mewn planhigion ac anifeiliaid ac addasiadau ar gyfer maethiad.

Uned 3: Ynni, Homeostasis a’r Amgylchedd:
Pwysigrwydd Adenosin Triffosffad (ATP), ffotosynthesis, resbiradaeth, microbioleg, maint y boblogaeth, homeostasis a’r arennau a’r system nerfol. Gellir asesu’r cysyniadau craidd o uned 1 (yn unrhyw ran o gynnwys uned 3).

Uned 4: Amrywiaeth ac Etifeddiaeth:
Atgenhedlu rhywiol mewn bodau dynol, atgenhedlu rhywiol mewn planhigion, etifeddiaeth, amrywiaeth ac esblygiad, cymhwyso atgenhedlu a geneteg, 1 o 3 uned ddewisol (i’w penderfynu gan y tiwtoriaid). A: Imiwnoleg a chlefydau. B: Anatomeg gyhyrol ysgerybydol dynol. C: Niwrobioleg ac ymddygiad. Gellir asesu’r cysyniadau craidd o uned 1 (yn unrhyw ran o gynnwys uned 4).

Uned 5: Ymarferol
Rhaid cadw cofnod o’r holl waith ymarferol mewn llyfr labordy penodol fel tystiolaeth tuag at yr arholiad ymarferol. Gall yr arholiad gael ei seilio ar unrhyw un o’r sesiynau ymarferol penodol neu unrhyw ran o’r cynnwys theori mewn unrhyw uned yn ystod y ddwy flynedd o astudio.
Asesir Unedau 1 a 2 trwy gyfrwng arholiad ysgrifenedig 1½ awr gyda chwestiynau’n sy’n gysylltiedig â phrofiad ymarferol. Bydd y ddwy uned yn cyfrannu’n hafal at y cymhwyster Uwch Gyfrannol ac ar y cyd byddant yn ffurfio 40% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.

Asesir Unedau 3 a 4 trwy gyfrwng arholiad ysgrifenedig 2 awr. Bydd y ddwy uned wedi’u cyfuno yn ffurfio 50% y cymhwyster Safon Uwch llawn.
Bydd y papurau ar gyfer Unedau 1-4 yn cynnwys cwestiynau wedi’u seilio ar y gwaith ymarferol penodol a wnaed trwy gydol y cwrs.

Mae Uned 5 wedi’i neilltuo ar gyfer arholiad ymarferol ar ddechrau tymor yr haf sy’n ffurfio 10% o’r cymhwyster Safon Uwch.

Cynhelir ffug arholiadau mewnol ar ddyddiadau a gyhoeddir yn ystod y flwyddyn er mwyn darparu profiad realistig o amodau arholiad a chyfle i ymarfer.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg iaith / Cymraeg iaith gyntaf a bodloni’r meini prawf canlynol:

– Gradd B/6 neu uwch mewn TGAU Mathemateg haen uwch.
– Gradd B/6 neu uwch mewn TGAU Gwyddoniaeth haen uwch yn y math o wyddoniaeth rydych yn dymuno ei hastudio.

Yng Ngholeg Cambria, rydym yn eich annog chi I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau bydd gennych, ac fe allai eich galluogi chi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Derbynnir Bioleg Safon Uwch fel cymhwyster academaidd cydnabyddedig ar gyfer mynediad i’r holl sefydliadau Addysg Uwch. Mae mwyafrif y myfyrwyr Bioleg yn mynd i’r brifysgol i astudio am radd mewn gwyddorau biolegol, gwyddorau’r dyfodol e.e. gwyddorau biofeddygol, gofal iechyd, geneteg, biodechnoleg, ffarmacoleg, bioleg amgylcheddol a microbioleg.

Mae Bioleg Safon Uwch yn cefnogi’r theori a gwmpasir mewn cyrsiau gradd Meddygaeth, Gwyddoniaeth Filfeddygol a Deintyddiaeth. Mae hefyd yn gymhwyster gwerthfawr i fynd i mewn i rolau gofal iechyd proffesiynol megis seicoleg, offthalmoleg, ffarmacoleg, nyrsio a bydwreigiaeth.
Gall fod yn ofynnol prynu offer a/neu wisg benodol ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?