main logo

Celf a Dylunio (Celf, Crefft a Dylunio) - Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA01144
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cyrsiau hyn yn heriol, gwerth chwil a difyr, ac yn cynnig profiad gwerthfawr i chi os oes gennych chi ddiddordeb brwd a dawn yn unrhyw un o’r meysydd pwnc.

Mae'r cwrs yn eich galluogi I ddatblygu sgiliau trwy nifer o weithgareddau a / neu arbenigeddau amrywiol a fydd yn gallu cynnwys lluniadu, paentio, gwneud printiau, ffotograffiaeth, y celfyddydau digidol, 3D a thecstilau. Byddwch yn defnyddio ystod eang o gyfryngau, technegau a dulliau I gynhyrchu portffolio o waith celf, crefft a dylunio.

Cewch gyfleoedd I weithio gydag artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol ac ym mynd ar ymweliadau addysgol I gefnogi’ch astudiaethau.
Ar lefel Uwch Gyfrannol ceir un uned asesu nad yw’n arholiad – Ymholiad Creadigol Personol. Mae hwn yn brosiect/portffolio estynedig sy’n ymchwilio ac arbrofi, wedi’i seilio ar themâu a phynciau sy’n bersonol ac ystyrlon i chi. Caiff Uned 1 ei asesu’n fewnol a’i gymedroli’n allanol.

Ar lefel Safon Uwch ceir dwy uned asesu nad yw’n arholiad.
Uned 2 – Ymchwiliad Personol, prosiect/portffolio ymchwil beirniadol manwl, yn cynnwys elfennau ymarferol a theori, ynghyd ag elfen ysgrifennu estynedig isafswm o 1,000 o eiriau.
Uned 3 – Aseiniad wedi’i bennu’n allanol gan y corff dyfarnu.

Mae Unedau 2 a 3 yn cael eu hasesu’n fewnol a’u cymedroli’n allanol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg / Cymraeg iaith gyntaf a Mathemateg, yn ogystal â bodloni’r meini prawf canlynol:

– Gradd B/6 mewn pwnc sy’n gysylltiedig â Chelf

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Efallai y byddwch chi’n dymuno mynd ymlaen i Ddiploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ar lefel cyn gradd, neu cewch barhau gyda’ch astudiaethau mewn prifysgol neu gael cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol.
Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer Celf a Dylunio ynghlwm am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?