main logo

Seicoleg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA01145
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae 2 arholiad uned ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf (Lefel UG) a 2 arall ar ddiwedd Blwyddyn 2 (Lefel Safon Uwch)

Lefel UG Blwyddyn 1
Uned 1 - Seicoleg: O’r gorffennol i’r dyfodol
Pwrpas yr uned hon yw rhoi sylfaen gadarn yn rhai o elfennau craidd sylfaenol seicoleg trwy astudio 5 ymagwedd seicolegol.
Ar gyfer pob un o’r pum dull seicolegol (biolegol, seicodynamig, ymddygiadol, gwybyddol a chadarnhaol) bydd angen i ddysgwyr:
● wybod a deall tybiaethau pob agwedd
● cymhwyso'r tybiaethau i egluro ffurfio perthynas
● gwybod a deall sut y gallan nhw ddefnyddio'r dull mewn therapi (un therapi fesul dull), a phrif gydrannau'r therapi
● gwerthuso'r therapi (gan gynnwys ei effeithiolrwydd ac ystyriaethau moesegol)
● gwerthuso’r dull gweithredu (gan gynnwys cryfderau, gwendidau a chymariaethau â’r pedwar dull arall)
● gwybod, deall a llunio barn ar ddarn clasurol o dystiolaeth (gan gynnwys methodoleg, gweithdrefnau, canfyddiadau, casgliadau a materion moesegol a goblygiadau cymdeithasol).

Uned 2 - Seicoleg: Defnyddio Cysyniadau Seicolegol
Adran A: Dadl gyfoes
Mae archwilio pum dadl gyfoes yn rhoi cyfle ar gyfer ymchwil annibynnol i feysydd y mae seicoleg wedi dylanwadu arnyn nhw. Dylid ystyried dwy ochr y ddadl o safbwynt seicolegol. Gofynnir i ddysgwyr archwilio’r dadleuon gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r pum dull yn Uned 1. Y 5 dadl i ymchwilio iddyn nhw ydy
● Moeseg niwrowyddoniaeth
● Y fam fel y prif ofalwr
● Defnyddio technegau cyflyru i reoli ymddygiad plant
● Dibynadwyedd tystiolaeth llygad-dyst (gan gynnwys plant)
● Rôl seicoleg gadarnhaol yn y gymdeithas heddiw
Adran B: Egwyddorion Ymchwil
Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar ymchwil seicolegol, o'r camau cynllunio cychwynnol hyd at y cam olaf o ddadansoddi a gwerthuso. Er mwyn rhoi cyd-destun priodol i'r addysgu, dylid astudio dau ddarn o ymchwil o waith seicolegwyr cymdeithasol a datblygiadol.

● Seicoleg Gymdeithasol: Milgram, S. (1963). Behavioural study of Obedience.
● Seicoleg datblygiadol: Kohlberg, L. (1968). The child as a moral philosopher.



Adran C: Cymhwyso dulliau ymchwil i senario newydd
Mae'r adran hon yn gofyn i ddysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddulliau ymchwil i senario ymchwil newydd, gan ddod i farn ar fanylion ymchwil seicolegol.

Blwyddyn 2 Safon Uwch

Uned 3 - Seicoleg: Goblygiadau yn y byd go iawn
Adran A – Astudio Ymddygiadau.
Archwilio 3 ymddygiad allan o 6; Ymddygiadau caethiwus, Ymddygiadau ar y sbectrwm Awtistig, Ymddygiadau Bwlio, Ymddygiadau Troseddol, Sgitsoffrenia, Straen.
Adran B - Dadleuon.
Mae hon yn elfen synoptig o'r cwrs; bydd 5 dadl sy'n rhychwantu ymchwil seicolegol yn cael eu hastudio, a bydd gofyn i ddysgwyr ddefnyddio deunydd o bob rhan o'r cwrs i wneud eu dadleuon. Y dadleuon ydy:
● Costau moesegol cynnal ymchwil
● Anifeiliaid sydd ddim yn ddynol
● Statws gwyddonol
● Rhywiaeth
● Tuedd ddiwylliannol

Uned 4 - Seicoleg: Dulliau Ymchwil Cymhwysol
Adran A: Ymchwiliad Personol
Er mwyn sicrhau gwir werthfawrogiad o fethodolegau mewn seicoleg, disgwylir i'r dysgwyr gael profiad uniongyrchol o ddau ddull ymchwil trwy ddylunio a chynnal dau ymchwiliad yn ystod y flwyddyn. Mae teitlau'r ymchwiliadau hyn yn newid bob blwyddyn, a byddan nhw’n cael eu pennu gan y bwrdd arholi. Bydd gofyn i ddysgwyr ymateb i gwestiynau am yr ymchwiliadau hyn yn yr asesiad. Mae dysgwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio TGCh wrth ymchwilio, dylunio, dadansoddi a chyflwyno eu hymchwiliad.

Adran B: Senarios Newydd
Ail agwedd y gydran hon ydy i ddysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddulliau ymchwil i senarios ymchwil newydd, gan lunio barn ar fanylion ymchwil seicolegol.
Bwrdd Arholi CBAC. Ar ddiwedd pob Uned mae’n ofynnol i fyfyrwyr sefyllfa ffug arholiad sy’n cael ei farcio’n fewnol. Mae’r ffug arholiadau hyn wedi’u dyfeisio i fod mor debyg i’r arholiadau allanol ag y bo modd.

Arholiadau allanol:
Unedau 1 – 2 (UG) – Cynhelir arholiadau Uned 1 a 2 ym mis Mai cyntaf y cwrs – 1 awr 30 munud yr un.

Uned 3 (Safon Uwch) – ail fis Mehefin y cwrs – arholiad 2 awr 30 munud. Uned 4 (Safon Uwch) – ail fis Mehefin y cwrs – 1 awr 30 munud.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg (nid rhifedd) a bodloni’r meini prawf canlynol:

– TGAU gwyddoniaeth gradd C/4 neu uwch.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae cyflogwyr yn y rhan fwyaf o sectorau yn cydnabod Seicoleg fel pwnc sy’n paratoi ac yn aeddfedu pobl ar gyfer bron bob math o gyflogaeth. Mae’r lefel Uwch Gyfrannol yn dangos dealltwriaeth ynghylch pobl a thrwy gwblhau’r rhan Safon Uwch, dylai’r myfyriwr ddatblygu’r gallu i ddadansoddi’n feirniadol wrth ymdrin â ffenomena dynol.

Ar lefel gradd gall Seicoleg arwain at nifer o yrfaoedd: Personél, Rheoli, Proffesiynau Gofal ac Addysgu. Er enghraifft, gall gradd dda yn y pwnc arwain at fod yn Seicolegydd Siartredig ym maes seicoleg clinigol, addysg, diwydiannol, galwedigaethol neu fforensig.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?