main logo

Astudiaethau Busnes - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA01146
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar natur newidiol barhaus busnes a sut mae materion cenedlaethol a rhyngwladol yn effeithio arno. Byddwn yn ystyried busnesau yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol a bydd gofyn i fyfyrwyr, ar gyfer UG a Safon Uwch, wybod am faterion cyfoes fel rhan o’r cwrs hwn. Lle bynnag y bo modd, bydd enghreifftiau busnes go iawn yn cael eu hymchwilio, eu dadansoddi a'u gwerthuso gan ddod ag ystyr i'r theori a astudiwyd yn y maes llafur. Yn ogystal ag addysgu ffurfiol, bydd myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn chwarae rôl, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp a gwaith unigol.

Yn ystod y flwyddyn UG, bydd y myfyrwyr yn astudio dau fodiwl. Bydd y modiwl cyntaf yn rhoi cyflwyniad i gwmpas Busnes gan ganolbwyntio ar sefydlu busnesau newydd mewn cyd-destun entrepreneuraidd. Disgwylir iddynt feithrin dealltwriaeth o'r ystod o weithgareddau sy'n gysylltiedig â sefydlu busnes bach, er enghraifft ymchwilio i'r farchnad, penderfynu ar strwythur cyfreithiol y busnes a dod o hyd i gyllid. Yn yr ail fodiwl, bydd myfyrwyr yn archwilio sut i fesur effeithiolrwydd busnes mwy trwy bedair prif swyddogaeth busnes: Marchnata - cyfathrebu'n effeithiol â'r cwsmer; Cyllid - cynllunio, monitro ac asesu cyllid y busnes; Rheoli Gweithrediadau - pa mor effeithlon y mae'r busnes yn trawsnewid deunyddiau crai yn gynnyrch neu wasanaeth gorffenedig; ac Adnoddau Dynol - dulliau a ddefnyddir i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu trefnu a'u rheoli i weithio mor gynhyrchiol ac effeithlon â phosibl.

Bydd myfyrwyr sy'n dewis parhau i lefel Safon Uwch yn adeiladu ar eu gwybodaeth a gafwyd yn y flwyddyn UG trwy ddau fodiwl arall, lle byddant yn ystyried gweithrediadau busnes ar safbwynt cenedlaethol a byd-eang, ar lefel strategol. Mae'r pwyslais yn y modiwl cyntaf ar ddeall a defnyddio technegau dadansoddol a datblygu strategaethau busnes priodol, er enghraifft trwy ddefnyddio modelau gwneud penderfyniadau. Mae'r ail fodiwl yn canolbwyntio ar sut mae busnesau'n addasu i lwyddo mewn amgylchedd allanol deinamig, trwy ddeall sut y gall ystod o ffactorau allanol effeithio ar weithgareddau o ddydd i ddydd, gwneud penderfyniadau a strategaeth. Mae rhagor o ganolbwyntio ar ddadansoddi a gwerthuso, a dealltwriaeth dysgwyr i ddangos lefel uwch o wybodaeth a dealltwriaeth. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhagor o gyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain ar y lefel hon, gan ddarllen o amgylch y meysydd pwnc a chadw eu gwybodaeth materion cyfoes yn gyfredol.

Nid oes gwaith cwrs, ond bydd rhaid i ddysgwyr gwblhau traethodau ac adroddiadau ar lefel Safon Uwch.
Mae Astudiaethau Busnes UG / Safon Uwch yn gwrs modiwlaidd dwy flynedd sy’n seiliedig ar arholiadau. Bydd dau arholiad ar ddiwedd bob blwyddyn. (40%)

Ar lefel UG, bydd y ddau arholiad yn cynnwys cwestiynau atebion byr yn ogystal â cwestiynau ymateb I ddata gyda rhai yn gofyn am atebion estynedig.
Bydd yr arholiadau Safon Uwch yn galw ar y cynnwys o’r unedau UG ac unedau Safon Uwch. Bydd yr arholiad cyntaf yn canolbwyntio ar gwestiynau sy’n ymateb I ddata, rhai cwestiynau byr a rhai’n gofyn am atebion estynedig yn seiliedig ar astudiaethau achos. Bydd yr ail arholiad yn cynnwys dwy adran. Bydd Adran A yn cynnwys nifer o gwestiynau, yn bennaf yn gofyn am atebion estynedig, yn seiliedig ar astudiaeth achos. Bydd Adran B yn gofyn i’r dysgwr ysgrifennu traethodau synoptig. (60%)

Bydd rhai o’r cwestiynau ym mhob arholiad yn canolbwyntio ar wybodaeth meintiol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Gallai myfyrwyr ddilyn eu gyrfa mewn amrywiaeth o ffyrdd yn dilyn cwblhau eu cwrs Busnes Safon Uwch, fel:

• Astudio graddau mewn meysydd sy’n gysylltiedig â Busnes fel Rheoli Busnes, Marchnata, Cyfrifeg, Seicoleg, Adnoddau Dynol a Busnes Rhyngwladol.
• Mewn meysydd nad ydynt yn gysylltiedig, mae astudio Busnes Safon Uwch bob amser yn cael ei ystyried yn ased mewn meysydd fel Gwyddorau, y Celfyddydau, Rheoli Hamdden / Twristiaeth.
• Mae hefyd yn bosibl dechrau mewn rhai proffesiynau yn uniongyrchol mewn sectorau y mae galw mawr amdanynt fel bancio, marchnata ac adwerthu.
• Mae Busnes Safon Uwch hefyd yn fuddiol wrth ddilyn prentisiaethau mewn busnesau blaenllaw fel Airbus, Unilever a PWC.
• Efallai y bydd rhai myfyrwyr entrepreneuraidd yn dewis sefydlu eu busnes eu hunain.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?