main logo

Iaith Saesneg - Safon Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA01148
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs Safon Uwch yn ehangu gwybodaeth myfyrwyr o agweddau astudio iaith ac yn dyfnhau eu gwybodaeth am sut mae iaith yn gweithio. Mae myfyrwyr yn datblygu eu hymwybyddiaeth o brif gyfansoddion a systemau iaith ac yn dysgu cymhwyso hyn i ddadansoddi ystod eang o destunau, ar lafar neu'n ysgrifenedig, o'r presennol neu'r gorffennol. Mae myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau ysgrifennu ac yn dysgu i deilwra eu hiaith yn unol â gofynion y gynulleidfa, diben a genre.

Lefel UG - Uned 1
Archwilio Iaith (Arholiad Ysgrifenedig: 1 awr a 45 munud)
Adran A: Dadansoddi Iaith
Adran B: Saesneg Gyfoes

Lefel UG - Uned 2
Materion Iaith ac Ysgrifennu Gwreiddiol a Beirniadol (Arholiad Ysgrifenedig: 2 awr)
Un cwestiwn mewn dwy ran: un traethawd ar fater iaith ac un dasg ysgrifennu gwreiddiol ynghyd â dadansoddiad yn gysylltiedig â'r mater iaith dewisol.

Lefel Safon Uwch - Uned 3
Iaith Dros Amser (Arholiad Ysgrifenedig: 1 awr a 30 munud)
Un cwestiwn aml-ran ac un cwestiwn traethawd yn dadansoddi newid iaith dros amser.

Lefel Safon Uwch - Uned 4
Testunau Llafar ac Ail-gastio Creadigol (Arholiad Ysgrifenedig: 2 awr)
Adran A: Dadansoddi Iaith Lafar - un cwestiwn yn seiliedig ar drawsgrifiadau na fyddwch chi wedi’u gweld
Adran B: Ail-gastio creadigol - un dasg ysgrifennu creadigol, Adran A fel ysgogiad

Lefel Safon Uwch - Uned 5
Iaith a Hunaniaith (Asesiad Di-arholiad: 2500-3500 o eiriau)
Ymchwiliad ar sail un o’r canlynol:
• iaith a hunan-gynrychiolaeth
• iaith a rhywedd
• iaith a diwylliant
• amrywiaeth iaith

Mae pob uned werth 20% o’r cymhwyster Safon Uwch
Mae ffug arholiad bob blwyddyn ac mae aseiniadau rheolaidd yn cael eu gosod.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Iaith Saesneg yn berthnasol i ystod eang o gyrsiau AU a gyrfaoedd. Mae’n eich paratoi chi’n wych ar gyfer unrhyw gwrs Saesneg prifysgol. Bydd y sgiliau sy’n cael eu hennill yn ystod y cwrs yn gwella defnydd myfyrwyr o’r Iaith Saesneg ac yn ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno dilyn gyrfaoedd mewn meysydd fel newyddiaduraeth a’r cyfryngau, y gyfraith ac addysgu. Mae canolbwyntio ar fframweithiau iaith hefyd yn ei wneud yn ddefnyddiol iawn i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio therapi lleferydd.
Efallai bydd angen prynu dillad a / neu offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr atodedig i gael rhagor o fanylion.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?