main logo

Cymdeithaseg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA01204
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Cymdeithaseg yn bwnc poblogaidd a fwynheir yn fawr gan fod myfyrwyr yn gallu ei ystyried yn berthnasol i'w bywydau ac mae’n borth i lawer o yrfaoedd proffesiynol diddorol. Mae’r gwersi’n cynnwys ystod eang o ddulliau addysgu, ond y rhai mwyaf poblogaidd yw'r trafodaethau bywiog y gall y cynnwys eu hysgogi.

Anogir myfyrwyr i ddadansoddi, asesu a gwerthuso ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan feithrin ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy. Maent yn cael eu hannog i ddysgu’n annibynnol, ac mae’r holl fyfyrwyr yn cael eu cynorthwyo i fagu agwedd uchelgeisiol er mwyn gwneud y mwyaf o'u potensial. Does dim oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am y pwnc, ond mae diddordeb mewn materion cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes ac ymwybyddiaeth o hynny’n gymorth mawr.

Mae Cymdeithaseg yn defnyddio theorïau a chysyniadau i archwilio materion a themâu megis: Diwylliant, Diwylliant Ieuenctid, Addysg, Cymdeithaseg y Byd, Anghydraddoldeb (Rhywedd, dosbarth, ethnigrwydd, oedran) a Dulliau Ymchwil.

Mae’r cwrs yn heriol, ac mae gofyn am sgiliau llythrennedd ar gyfer llunio traethodau, a sgiliau dadansoddi a gwerthuso er mwyn ymchwilio testunau ac astudiaethau methodolegol.
Bydd yr asesiadau mewnol yn defnyddio amrywiaeth o fformatau i alluogi myfyrwyr gael darlun clir o’u cynnydd a’r camau gweithredu i wella. Bydd ffug arholiadau mewnol yn cael eu cynnal ym mis Rhagfyr a chynhelir arholiadau allanol ym mis Mai (ar gyfer UG) a Mehefin ar gyfer (Safon Uwch).

Mae’r cwrs Cymdeithaseg Safon Uwch yn dilyn manyleb CBAC:

UNED 1 UG: CAFFAEL DIWYLLIANT (Arholiad ysgrifenedig: 1:15 awr).
Adran A – Un cwestiwn strwythuredig ar y cysyniadau a’r prosesau allweddol o ran trosglwyddo diwylliannol, cymdeithasoli a chaffael hunaniaeth.
Adran B – Diwylliant Ieuenctid yn cynnwys cwestiwn gorfodol a dewis rhwng dau gwestiwn traethawd.

UNED 2 UG: DEALL CYMDEITHAS A DULLIAU YMCHWILIAD
CYMDEITHASOL (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr).
Adran A – Dulliau Ymchwilio Cymdeithasegol.
Adran B – Deall Cymdeithas: Addysg

UNED 3 SAFON UWCH: PŴER A RHEOLAETH (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr).
Mae’r cwestiynau yn yr adran hon ar thema Cymdeithaseg y Byd.

UNED 4 SAFON UWCH: ANGHYDRADDOLDEB CYMDEITHASOL A DULLIAU CYMHWYSO YMCHWILIO CYMDEITHASEGOL (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 15 munud).
Adran A – Dulliau Ymchwilio Cymdeithasegol.
Adran B – Anghydraddoldeb Cymdeithasol. Mae’r cwestiynau yn yr adran hon ar thema gwahaniaethu a haenau cymdeithas.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Derbynnir Cymdeithaseg Safon Uwch fel cymhwyster academaidd cydnabyddedig ar gyfer mynediad i’r holl sefydliadau Addysg Uwch ac mae cyflogwyr ym mhob proffesiwn yn gwerthfawrogi ymgeiswyr gyda chymwysterau Cymdeithaseg.

Oherwydd yr ystod amrywiol o sgiliau sydd ganddynt, mae rhai o’n myfyrwyr mwyaf llwyddiannus wedi mynd yn eu blaenau i astudio ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a phrifysgolion grŵp Russell ac i yrfaoedd fel darlithio mewn prifysgol, newyddiaduraeth, gwaith cymdeithasol, meddygaeth, yr heddlu a’r gyfraith.
Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?