main logo

Llywodraeth a Gwleidyddiaeth - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA01205
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Safon Uwch yn bwnc newydd i’w astudio sy’n gyffrous ac yn ddynamig. Mae’n rhoi cyfle i chi drafod ystod o faterion a datblygu sgiliau academaidd gwerthfawr. Mae Gwleidyddiaeth Safon Uwch yn bwnc anrhydeddus sy’n cael ei groesawu gan brifysgolion ac yn eich galluogi i symud ymlaen i ddewis eang o gyrsiau a gyrfaoedd yn y dyfodol.
Mae Gwleidyddiaeth UG a Safon Uwch yn dilyn manyleb CBAC.
Uwch Gyfrannol Blwyddyn 1
Y prif feysydd astudio fydd y Llywodraeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig a Chymryd rhan mewn Democratiaeth. Mae’r cwestiynau allweddol yn ymwneud â’r cyfansoddiad, y llywodraeth a’r pwerau datganoledig gan ystyried: sofraniaeth, pŵer ac atebolrwydd - lle mae’r pŵer yn system wleidyddol Prydain? Pwy sydd mewn pŵer a sut y mae’r rhain yn cael eu cadw’n atebol? Beth ydy ystyr dinasyddiaeth yma yn y Deyrnas Unedig? Beth ydy hawliau ein dinasyddion a sut y medrwn ni ddylanwadu ar a chael effaith ar brosesau gwleidyddol? Sut gallwn ni ymgysylltu â gweithgaredd gwleidyddol? Sut mae pleidiau gwleidyddol yn gweithredu?
Safon Uwch Blwyddyn 2
Bydd yr ail flwyddyn yn cyfuno astudio cysyniadau a damcaniaethau gwleidyddol, gan ymchwilio i ystod o ideolegau fel Sosialaeth, Cenedlaetholdeb, Ceidwadaeth, Rhyddfrydiaeth ac uned ychwanegol am Lywodraeth a Gwleidyddiaeth Unol Daleithiau’r America, gan eto gwestiynu lle mae’r pŵer, democratiaeth a chyfranogiad yn y system wleidyddol.

Gweithgareddau Allgyrsiol
Bydd yr holl fyfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu diddordebau a pharatoi eu hunain ar gyfer y brifysgol a gyrfa. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys teithiau fel rhai i gynadleddau ac i’r senedd yn Llundain neu Senedd Cynulliad Cymru yng Nghaerdydd, trafodaethau rhyngweithiol; siaradwyr gwadd a chyfle i holi amrywiaeth o westeion gan gynnwys Aelodau Senedd Prydain ac Aelodau Senedd Cynulliad Cymru
Bydd y cwrs Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn cael eu hasesu gan arholiadau diwedd blwyddyn, ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn. Does dim gwaith cwrs, fodd bynnag, mae’r adran yn defnyddio ffug arholiadau pwysig fel modd o baratoi’r myfyrwyr ar gyfer asesiadau allanol ac mae cwestiynau arddull arholiad yn cael eu pennu’n rheolaidd.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae’r sgiliau sy’n cael eu meithrin yn werthfawr iawn mewn nifer o yrfaoedd. Mae cyflogwyr yn edrych yn ffafriol ar fyfyrwyr Gwleidyddiaeth gan eu bod yn debygol o gael sgiliau dadansoddi cryf. Mae’r gyrfaoedd perthnasol yn cynnwys:

– Y Gyfraith
– Newyddiaduraeth a Darlledu
– Rheoli Busnes a Chyllid, Cysylltiadau Cyhoeddus a marchnata
– Gweinyddiaeth y Gwasanaeth Sifil, Llywodraeth Leol a’r Gwasanaeth Iechyd
– Gwaith cymdeithasol
– Y Lluoedd Arfog a’r Heddlu
– Gweithio yn Senedd Cymru neu sefydliadau gwleidyddol eraill.
Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?