main logo

Mathemateg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA01206
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Mathemateg UG a Safon Uwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ar draws cwestiynau sy’n gofyn am ddefnyddio dadleuon mathemateg, gwybodaeth a phrawf, datrys problemau, a modelu a defnyddio data mewn ystadegau. Byddwch yn dysgu adnabod sut gellir cynrychioli sefyllfa yn fathemategol a deall y berthynas rhwng problemau’r ‘byd go iawn’ a modelau mathemategol safonol. Byddwch hefyd yn dod i wybod am berthnasedd mathemateg i feysydd astudio eraill, i fyd gwaith ac i gymdeithas yn gyffredinol.

Mae Mathemateg Safon uwch yn gallu cynorthwyo gyda phynciau safon uwch eraill fel Bioleg, Cemeg, Ffiseg ac Economeg.

Mae Mathemateg Bellach UG/Safon Uwch yn cael ei argymell ar gyfer Mathemategwyr abl ac mae’n bwnc y mae prifysgolion yn ei ffafrio ar gyfer y rheiny sy’n bwriadu astudio pynciau fel Ffiseg, Peirianneg neu Gemeg.
Ar lefel UG, caiff Uned 1 ei hasesu drwy bapur ysgrifenedig 2.5 awr yn seiliedig ar Fathemateg Bur; mae Uned 2 yn ymwneud â Mathemateg gymhwysol, gan gynnwys adran ar ystadegau ac adran ar Fecaneg. Mae papur uned 2 yn 1.75 awr.

Mae Uned 1 yn werth 25% ac Uned 2 yn werth 15% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.

Ar lefel Safon Uwch, caiff unedau 3 a 4 eu hasesu trwy ddau bapur ysgrifenedig. Asesir Uned 3 trwy bapur ysgrifenedig 2.5 awr yn seiliedig ar Fathemateg Pur; mae Uned 4 yn archwilio Mathemateg Gymhwysol, gan gynnwys adran yn seiliedig ar ystadegau ac adran ar hafaliadau differol, dulliau rhifiadol a mecaneg. Mae papur Uned 4 yn 1.75 awr.

Mae Uned 3 yn werth 35% ac Uned 4 yn werth 25% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.

Byddwn yn cynnal arholiadau ffug mewnol ar ddyddiadau a gyhoeddir, i roi profiad realistig o arholiadau i’r myfyrwyr.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf) a bodloni’r meini prawf canlynol:

– Gradd B/6 neu uwch mewn TGAU Mathemateg haen uwch.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Mathemateg Safon Uwch yn berthnasol i ystod eang o gyrsiau addysg uwch. Byddai Mathemateg yn gymhwyster dymunol mewn nifer o alwedigaethau: Y Gwasanaeth Sifil, cyllid, bancio, mewn gwaith technegol, cyfrifiadureg, gwyddonol a pheirianneg, ac mewn sefydliadau llywodraethol a datblygiadol.
Efallai bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?