main logo

Y Gyfraith - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA01207
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio (40% o Safon Uwch).

Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio (60% o Safon Uwch).
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs yn ystyried sut mae’r system gyfreithiol yn gweithio ac yn ystyried ei heffeithlonrwydd. Bydd myfyrwyr yn canfod ffynonellau gwahanol y gyfraith ac yn astudio’r berthynas rhwng y gyfraith a moesoldeb. Bydd y cwrs yn cynyddu eich dealltwriaeth o sut mae’r gyfraith yn gweithio’n ymarferol, trwy astudio’r system llysoedd sifil a’r system droseddol. Byddwch chi hefyd yn ystyried achosion cyfreithiol diddorol a rhyfeddol, ac yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dadleuon a ffug dreialon. Yn yr ail flwyddyn, bydd myfyrwyr Safon Uwch yn archwilio’n feirniadol materion yn ymwneud â’r gyfraith Hawliau Dynol, fel y pwerau sydd gan yr heddlu i dresmasu preifatrwydd. Yn ogystal, bydd yn canolbwyntio’n benodol ar gyfraith droseddol, gan gynnwys dadansoddi’r gyfraith o ran dynladdiad.

Y Gyfraith UG
Uned 1: Deddfu yng Nghymru a Lloegr a Natur y Gyfraith (25%)
Adran A: Deddfu, deddfwriaeth ddirprwyedig, dehongli statudol a Chynsail Farnwrol
Adran B: y llysoedd sifil, prosesau troseddol, personél cyfreithiol a chyrchu cyfiawnder a chyllid.


Uned 2: Cyfraith Camwedd
Rheolau a damcanaeth cyfraith camwedd, atebolrwydd o ran esgeuluster ar gyfer anaf i bobl a difrod i eiddo, Atebolrwydd meddianwyr a rhwymedïau

Y Gyfraith Safon Uwch
Uned 3: Arferion Cyfraith Sylwedd (30%)

Uned 4: Agweddau ar Gyfraith Sylwedd (30%)

Cyfraith Hawliau Dynol
Rheolau a damcaniaeth cyfraith hawliau dynol
Darpariaethau Penodol y Confensiwn ar Hawliau Dynol Ewrop
Cyfyngiadau, gan gynnwys cyfyngiadau a ganiateir gan Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop
Gorfodi
Y ddadl sy’n ymwneud â diogelu hawliau dynol yn y DU


Cyfraith Trosedd
Rheolau a damcaniaeth cyfraith trosedd
Elfennau atebolrwydd cyffredinol
Troseddau corfforol
Troseddau Eiddo gan gynnwys lladrad a bwrgleriaeth
Amddiffyniadau
Troseddau ymgais rhagarweiniol
Caiff nifer o asesiadau gwahanol eu defnyddio trwy gydol y cyfnod astudio a byddwn yn cynnal ffug arholiadau mewnol ar gyfer myfyrwyr lefel UG a Safon Uwch ym mis Ionawr. Mae’r arholiadau’n cynnwys cwestiynau i’w hateb ar ffurf traethawd, ymateb i symbyliad ac enghreifftiau o astudiaethau achos.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gyrchu cwrs lefel uwch.
Nid ydy’r cwrs hwn wedi’i anelu at y myfyrwyr hynny sy’n dymuno cymhwyso fel cyfreithwyr yn y pen draw. Mae’n brofiad dysgu ynddo’i hun oherwydd ei fod yn meithrin y gallu i ddadansoddi materion a llunio dadleuon rhesymegol.

Mae astudio’r Gyfraith Safon Uwch yn cael ei barchu’n fawr gan y sefydliadau sy’n cynnig addysg uwch. Mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i yrfaoedd rhyfeddol o amrywiol gan gynnwys rheoli, masnach, llywodraeth leol, gwaith cymdeithasol, yn ogystal ag amrywiaeth o swyddi yn fwy amlwg yn canolbwyntio yn gyfreithiol fel yr heddlu, gweithredwyr cyfreithiol a’r proffesiwn cyfreithiol.
Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Edrychwch ar y rhestr offer I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?