main logo

Drama ac Astudiaethau Theatr - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA09141
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r rhaglen astudio Drama Safon Uwch yn heriol, yn werth chweil a difyr ac mae'n cynnig profiad gwerthfawr i chi os oes gennych chi ddiddordeb brwd a dawn yn y maes pwnc hwn.

Mae Astudiaethau Drama a Theatr yn rhoi cyfle i chi ddyfnhau ac ehangu eich dealltwriaeth o faes y pwnc ac i feithrin hyder a sgiliau cyfathrebu a chyflwyno hefyd.

Yn ystod blwyddyn 1, byddwch chi’n dod i ddeall perfformiadau byw a’u dadansoddi, astudio testun gosod a pherfformio darn wedi’i sgriptio neu ddylunio gwisg, goleuadau a’r set.

Ym mlwyddyn 2 byddwch chi hefyd yn deall perfformiadau byw a’u dadansoddi. Byddwch chi hefyd yn astudio dau destun gosod gan ddadansoddi ac edrych arnyn nhw trwy lygaid cyfarwyddwr, perfformiwr a dylunydd.

Os ydych chi’n ymgymryd â’r elfen perfformio, byddwch chi hefyd yn creu darn o ddrama wreiddiol yn ogystal â pherfformio testun gosod. Os ydy tu ôl i'r llenni yn fwy dymunol i chi, gallwch chi ddewis yr elfen ddylunio a threfnu'r gwisgoedd, y goleuadau neu ddyluniad y llwyfan ar gyfer y perfformiadau hyn. Bydd gofyn i chi fynd i berfformiadau theatr yn rheolaidd.
Ar lefel UG
Mae Uned 1 – Gweithdy theatr – yn asesiad di-arholiad ymarferol sy’n cael ei asesu’n fewnol a’i safoni’n allanol.
Mae Uned 2 – Testun mewn Theatr – yn arholiad ysgrifenedig.

Ar lefel Safon Uwch
Mae Uned 3 – Testun ar Waith – yn asesiad ymarferol di-arholiad sy’n cael ei asesu’n allanol gan arholwr a fydd yn ymweld â’r coleg.
Mae Uned 4 – Testun mewn Perfformiad – yn arholiad ysgrifenedig.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Gallwch barhau gyda’ch astudiaethau Drama a Theatr mewn prifysgol neu ysgol ddrama a gydnabyddir yn genedlaethol neu gael gwaith yn y Diwydiannau Celfyddydau Perfformio.

Mae’r cwrs wedi bod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer dilyn dewisiadau gyrfaoedd eraill sy’n ymwneud â sgiliau dadansoddol, cyflwyno personol a chyfathrebu.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?