main logo

Daearyddiaeth - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA09153
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, The AS content is taught in the first year of study.
Dysgir y cynnwys U2 yn yr ail flwyddyn astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis Daearyddiaeth oherwydd ei fod yn darparu cyfle i astudio amrediad eang o themâu a materion cyfoes, y mewnwelediad pwysig mae’n ei gynnig i ddeall ein bydoedd cyfoes, a’r cyfle i roi’r wybodaeth hon ar waith trwy gyfrwng gwaith maes. Mae Daearyddiaeth yn cael ei ystyried yn ‘bwnc hwyluso’ ar gyfer mynediad i brifysgol ac mae’n meddu ar y lefel cymhlethdod sy’n gysylltiedig gyda hyn. Mae’r cwrs hwn yn adeiladu ar feysydd y cwrs Daearyddiaeth TGAU ac mae’n ymgorffori sgiliau ysgrifennu traethodau, dadansoddi data, dehongli mapiau, technoleg gwybodaeth, gwaith maes ac ymchwil personol. Ein nod yw darparu addysg o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr a rhoi amrediad eang o sgiliau iddynt i’w paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus a llawn boddhad. Ymdrechwn i ddarparu’r rhain mewn adran ysgogol, gefnogol a chyfeillgar.

Blwyddyn 1 Uwch Gyfrannol
Uned 1 – Tirweddau sy’n Newid
ADRAN A – Tirweddau Arfordirol
ADRAN B – Peryglon Tectonig

Uned 2 – Lleoedd yn Newid
ADRAN A – Lleoedd yn Newid
ADRAN B – Ymchwil Gwaith Maes mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Dynol

Blwyddyn 2 Safon Uwch
Uned 3 – Systemau Byd-eang a Llywodraethu Byd-eang
ADRAN A – Systemau Byd-eang – Cylchredau Dŵr a Charbon
ADRAN B – Llywodraethu Byd-eang: Newid a Heriau – prosesau a phatrymau mudo bydol a llywodraethu bydol cefnforoedd y Ddaear
ADRAN C – Heriau’r unfed ganrif ar hugain

Uned 4 – Themâu Cyfoes mewn Daearyddiaeth
ADRAN A – Peryglon Tectonig
ADRAN B – Themâu Cyfoes mewn Daearyddiaeth – Twf Economaidd a Heriau: Affrica is-Sahara ac Ecosystemau

Uned 5 – Ymchwiliad Annibynnol
Asesiad di-arholiad: 3,000 – 4,000 gair wedi’i seilio ar gasgliad o ddata cynradd a gwybodaeth eilaidd.

Mae ymweliadau maes gorfodol yn cefnogi ac yn sylfaen i’r holl agweddau ac maent yn ofynnol ar gyfer y gwaith cwrs dan y fanyleb newydd. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gynllunio, casglu data a dadansoddi a gwerthuso’r data a gesglir yn annibynnol.
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu trwy gydol y flwyddyn, gyda ffug arholiadau mewnol ar gyfer blwyddyn UG a Safon Uwch. Cynhelir arholiadau allanol ar ddiwedd y cwrs UG ym mis Mai/Mehefin.

Mae hyn yn cyfri am 40% o gyfanswm y cymhwyster Safon Uwch. Mae ail flwyddyn y cwrs yn cyfateb i 60%. Ceir elfen gwaith cwrs sy’n werth 20% o’r cymhwyster cyfan.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg iaith gyntaf a Mathemateg, a bodloni’r meini prawf canlynol:

-Gradd C/4 neu uwch mewn TGAU Daearyddiaeth

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Daearyddiaeth Safon Uwch yn cael ei ystyried yn “bwnc hwyluso”, sy’n golygu ei fod yn cael ei dderbyn fel cymhwyster academaidd cydnabyddedig i gael mynediad i bob sefydliad addysg uwch gan gynnwys Prifysgolion Grŵp Russell. Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth uchel ar ymgeiswyr gyda chymwysterau Daearyddiaeth, oherwydd yr ystod o sgiliau amlbwrpas gallant eu cynnig.

Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd cysylltiedig fel samplo a monitro amgylcheddol, Cynllunio Gwlad a Thref, swyddog llywodraeth leol, gweithiwr cymdeithasol, gwasanaeth sifil, rheolwr personél, athro/athrawes, swyddog yr heddlu.
Mae gwaith maes yn elfen orfodol o’r cwrs a gall fod rhai costau sy’n gysylltiedig â chludiant i ac o leoliadau gwaith maes.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?