main logo

City & Guilds Tystysgrif NVQ Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA03363
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 12 – 18 mis yn dibynnu ar gynnydd y gweithiwr unigol
Ar gyfer dyddiadau’r cwrs cysylltwch â Choleg Cambria ar 0300 30 30 006 neu e-bost employers@cambria.ac.uk
Adran
Cynghori a Rhoi Arweiniad, Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Cyngor ac Arweiniad
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymwysterau hyn ar gyfer y rheiny sy'n gweithio â chleientiaid mewn sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cyngor a chyfarwyddyd, yn broffesiynol neu'n wirfoddol.

Maent ar gyfer unrhyw un 16 oed neu hŷn (Lefel 3) sy'n darparu cyngor a chyfarwyddyd mewn rôl broffesiynol neu wirfoddol. Gallech fod yn gweithio ym maes cyngor am yrfaoedd, ar gyfer undeb llafur, mewn ysgol, ym maes tai, adnoddau dynol neu iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r lefel hon yn ddelfrydol os yw'ch rôl yn golygu darparu cyngor a chyfarwyddyd arbenigol i gleientiaid, gan adrodd i uwch reolwyr a rhwydweithio â gwasanaethau cysylltiedig.

I ennill y cymhwyster hwn, mae'n rhaid i chi gwblhau amrywiaeth o unedau gorfodol a dewisol, gan gynnwys:
• Cefnogi cleientiaid i ddefnyddio'r gwasanaeth cyngor a chyfarwyddyd
• Cynnal a rheoli'r broses gyfryngu
• Darparu cymorth ar gyfer ymarferwyr eraill
Gallwch ddewis y cymhwyster sy'n arddangos y wybodaeth a sgiliau gwerthu arbenigol rydych wedi'u datblygu fel:
Deall deddfwriaeth a gweithdrefnau
Trafod telerau ar ran cleientiaid
Darparu a chynnal deunyddiau gwybodaeth.
Byddwch yn dysgu yn yr amgylchedd gwaith.
Bydd yr asesiad yn cynnwys portffolio o dystiolaeth i fodloni meini prawf y cymhwyster, cydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol a dilyn rhaglen datblygu yn llwyddiannus
Sesiwn gynefino 1 x 3 awr yn cynnwys Holiadur Cyn Cwrs a chofrestru.
Uned asesiadau – 2 awr fesul Uned. Pob un i’w cyflawni yn y gweithle
Bydd y cymorth hwn ar gael yn strwythuredig yn eich gweithle ac yn y coleg yn hyblyg.
Bydd cymorth asesydd dros y ffôn / e-bost hefyd ar gael.
Mae’r lefel hon yn ddelfrydol os yw’ch rôl yn golygu darparu cyngor a chyfarwyddyd i gleientiaid yn uniongyrchol, gan adrodd i reolwyr llinell a gwasanaethau cysylltiedig. Hefyd efallai y byddwch yn goruchwylio a chefnogi aelodau eraill o staff.
I ennill cymhwyster, mae’n rhaid i chi gwblhau amrywiaeth o unedau gorfodol a dewisol, gan gynnwys:
• Cychwyn cyfathrebu â chleientiaid ar gyfer gyngor a chyfarwyddyd
• Cynorthwyo cleientiaid cyngor a chyfarwyddyd i benderfynu ar gamau gweithredu
• Rheoli llwyth achosion personol.
Gall y cymwysterau hyn eich helpu i wneud cynnydd mewn amrywiaeth eang o rolau cyngor a chyfarwyddyd, gan gynnwys:

• Cynghorydd Connexions
• Ymgynghorydd ‘Business link’
• Aelod o staff Canolfan Cyngor ar Bopeth
• Darparwr cyngor mewn sefydliadau addysgol
• Darparwr cwnsela
• Personél hyfforddiant ac adnoddau dynol
• Derbynnydd
• Gweinyddwr
Ar gyfer y gost cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu e-bost employers@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?