main logo

Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA11570
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 14 mis
Adran
Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Cyngor ac Arweiniad
Dyddiad Dechrau
30 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
30 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Diploma Lefel 3 yn gymhwyster cyfun, sy'n cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. Gellir cyflwyno'r cymwysterau hyn ar eu pennau eu hunain neu fel rhan o'r Prentisiaethau Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Fe'u lluniwyd ar y cyd â Skills CFA (Y Cyngor ar gyfer Gweinyddu) gan ddefnyddio'r NOS (Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol) a ddiweddaraf a ysgrifennwyd ar y cyd â chyflogwyr.

Cael cydnabod eich gallu i greu profiad gwasanaethau i gwsmeriaid gwych gyda chymhwyster Gwasanaethau i Gwsmeriaid Lefel 3. Mae cael sgiliau gwasanaethau i gwsmeriaid gwych yn gallu eich helpu i gael dyrchafiad yn eich gyrfa, ni waeth pa faes rydych chi'n gweithio ynddo.
Mae'r cymwysterau Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn ddelfrydol i'r rhai hynny sy'n ymfalchïo eu bod yn gorfod ymdrin â phobl. Efallai eich bod yn gweithio mewn swydd darparu gwasanaethau i gwsmeriaid mewn unrhyw ddiwydiant neu i’r rhai sy’n gyfrifol am strategaeth gyffredinol gwasanaethau i gwsmeriaid sefydliad.

Byddwch yn ymdrin â meysydd fel:
Cyfathrebu, gan ddefnyddio iaith gwasanaethau i gwsmeriaid
Cyfathrebu gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
Dilyn y rheolau i ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid
Cynnal agwedd gadarnhaol a chlên gyda chwsmeriaid
Ymdrin â chwsmeriaid wyneb yn wyneb
Cyflawni eich gwaith gan fod yn glên gyda chwsmeriaid
Trefnu eich bod yn cyflawni gwasanaeth dibynadwy i gwsmeriaid
Datrys problemau gwasanaethau i gwsmeriaid
Datrys cwynion cwsmeriaid
Gwasanaethau i gwsmeriaid
Hyrwyddo gwasanaethau i gwsmeriaid
PREVENT - 4 modiwl i’w cwblhau ar-lein gan gynnwys Gwerthoedd Prydeinig, Aros yn ddiogel ar-lein, beth allwch chi ymddiried ynddo a radicaleiddio ac eithafiaeth.


Bydd y cymwysterau hyn yn gallu eich helpu i fod ar y blaen mewn bron unrhyw ddiwydiant, gan fod sgiliau da gwasanaethau i gwsmeriaid yn hanfodol mewn nifer fawr o swyddi.
Sesiwn ymsefydlu 2 awr o awr i gynnwys holiadur cyn dechrau’r cwrs, cofrestru a sgrinio lefelau Saesneg, mathemateg a llythrennedd digidol.

● Arsylwadau – ohonoch chi yn eich gwaith
● Gwybodaeth – ysgrifenedig neu wedi ei recordio

Asesiadau uned – Mae gan bob uned oriau dysgu dan arweiniad, rhwng 8 awr a 15 awr fesul uned. I gyd i gael eu cyflwyno yn y gweithle.
Mae dewisiadau arholiad ar gyfer rhai unedau, y byrraf yn 30 munud a’r hiraf yn 1 awr.
Bydd y cymorth hwn ar gael yn strwythuredig yn eich gweithle ac yn hyblyg yn y coleg.
Bydd cymorth asesydd ar gael dros y ffôn/e-bost hefyd.
Bydd tystiolaeth eich cwrs yn cael ei chadw ar system e-bortffolio o’r enw Smart Assessor.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio mewn amgylchedd Gwasanaethau i Gwsmeriaid.
Bydd y y cymwysterau hyn yn gallu eich helpu i fod ar y blaen mewn bron unrhyw ddiwydiant, gan fod sgiliau da i gwsmeriaid yn hanfodol mewn nifer fawr o swyddi.
Efallai y bydd y rhai sy’n awyddus i ddechrau gyrfa sy’n canolbwyntio ar wasanaethau i gwsmeriaid eisiau ennill y cymwysterau hyn fel rhan o Brentisiaeth. Mae Prentisiaeth mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn eich helpu i feithrin eich sgiliau tra byddwch yn ennill profiad gwaith gwerthfawr. Darganfyddwch ragor am y brentisiaeth.
Os ydych chi’n frwd dros hyrwyddo eich gyrfa trwy feithrin sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid cadarn, efallai y byddwch yn dymuno symud ymlaen i ennill cymhwyster ychwanegol. Ar ôl cwblhau Lefel 3, gallwch fynd ymlaen i ennill:
Ar ôl cwblhau’r Lefel 3, gallwch chi astudio:
Diploma Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli
Diploma Lefel 3/4 mewn Cynghori a Rhoi Arweiniad
Cymhwyster Lefel 3/4 mewn Gweinyddu Busnes

I gael gwybod y gost, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at:employers@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?