main logo

Dysgu Saesneg yn Iâl

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA91016
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, Rydym yn cynnig cyrsiau yn ystod y dydd a rhai gyda’r nos hefyd a gallwch astudio 4 i 16 awr yr wythnos trwy gydol blwyddyn academaidd y coleg (35 wythnos).

Er bod cyrsiau yn dechrau ym mis Medi ac yn gorffen ddiwedd Mehefin mae’n bosib cofrestru ar y cwrs unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.

Sylwch: nid yw’r holl lefelau ar gael bob dydd.

Er mwyn cofrestru, gwnewch apwyntiad ar gyfer asesiad cychwynnol drwy gysylltu â’n Hadran Gwasanaethau Myfyrwyr. Sicrhewch fod gennych chi’ch cerdyn adnabod gyda chi gan y byddwn yn gwirio hwn i sicrhau cymhwysedd.
Adran
Dysgu Saesneg
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae gan Goleg Cambria enw gwych am ddarparu cyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) a gallwch astudio naill ai ar ein safle Iâl yn Wrecsam neu ein safle Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint.

Mae ein cyrsiau Dysgu Saesneg wedi’u rhannu’n dri sgil iaith graidd; Siarad a Gwrando, Darllen ac Ysgrifennu ac mae cyrsiau ar gael ar draws 8 lefel, o ddechreuwyr llwyr i bobl sydd heb sgiliau iaith o gwbl hyd at Lefel 2.

Byddwch yn gallu cynyddu eich hyder yn siarad Saesneg, darllen testun ac ysgrifennu yn Saesneg. Byddwch yn gallu gwella eich gramadeg ac ehangu eich geirfa ar gyfer gwaith, astudio a gartref, fel y gallwch gyfathrebu’n hyderus gyda ffrindiau a chyflogwyr a mwynhau eich bywyd yn y DU.


Mae’r sgiliau’n cael eu darparu drwy amrywiaeth o bynciau, fel:

● Iechyd
● Cartrefi / Tai
● Addysg
● Cyflogaeth / Hyfforddiant
● Arian
● Teithio
● Cymru a’r DU
● Hamdden
● Prynu nwyddau
● Y bobl o’n hamgylch
Yn dilyn asesiad cychwynnol byddwch yn cael eich rhoi ar gwrs i adlewyrchu’ch lefel sgiliau (sylwch efallai y byddwch ar lefel wahanol ar gyfer pob sgil gan ei bod yn bwysig eich bod yn dilyn y cwrs ar lefel gywir i gefnogi datblygiad eich sgiliau).

Bydd gennych CDU (cynllun dysgu unigol) gyda thargedau penodol i’w cyflawni yn ystod y cwrs a bydd y rhain yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i gefnogi cynnydd dysgu.

Yn dibynnu ar y cynnydd, efallai y cewch eich cofrestru ar gyfer Arholiadau Sgiliau Bywyd Trinity. Gall myfyrwyr wneud arholiadau Darllen, Ysgrifennu a / neu Siarad a Gwrando ar lefel y maen nhw wedi bod yn gweithio tuag ato.
Asesir myfyrwyr newydd yn ystod yr asesiad cychwynnol a byddant yn cael cynnig cwrs ar lefel sy’n adlewyrchu canlyniadau eu hasesiad.

Fel arfer bydd myfyrwyr sy’n parhau yn symud ymlaen i’r lefel nesaf. Felly, y gofynion yw’r lefel is e.e. byddai’n ofynnol i fyfyriwr sy’n dymuno dilyn cwrs Mynediad 3 fod wedi cwblhau cwrs Mynediad 2.
Mae cyfleoedd dilyniant yn cynnwys cyrsiau yn y coleg neu gyflogaeth.
Cwrs a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn amodol ar gymhwysedd ac felly bydd eich cerdyn adnabod/Fisa yn cael ei wirio a gall ffioedd fod yn berthnasol mewn rhai achosion.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?