main logo

Lefelu a Gosod Sylfaenol ar gyfer Goruchwylwyr Safle (2-dydd)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA87839
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, Dyma gwrs undydd (09:00 – 16:00)
Adran
Adeiladu a Gwaith Adeiladu
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Cafodd y cwrs ei gynllunio ar gyfer goruchwylwyr safle (neu oruchwylwyr dan hyfforddiant) y mae'n ofynnol iddynt oruchwylio gwaith adeiladu a pheirianneg sifil. Mae’n ymdrin â gweithredu lefelau optegol awtomatig, lefelau laser gradd sengl a deuol, lefelau laser traws-linell a lefelau llinell pibellau. Mae’n datblygu gwybodaeth a gallu ymarferol yr ymgeiswyr mewn gweithdrefnau a dulliau arolygu sylfaenol, gan gynnwys egwyddorion mathemategol cyfrifo tirfesur. Byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg gosod.
● Sicrhau cywirdeb mewn gweithgarwch gosod a lefelu
● Gosod rheolydd llorweddol
● Gosod rheolydd fertigol
● Sefydlu data gweithiol (TBM) ar y safle
● Darllen y ffon, llyfr a chyfrifo’r canlyniadau
● Cofnodi lefelau’r nodweddion presennol
● Gosod o luniadau gweithiol
● Gwirio cywirdeb y gweithgarwch gosod
● Gosod i’r lefelau a roddwyd
● Gosod proffiliau a chyfrifo’r trydydd byrddau proffil symudol
● Gosod a defnyddio lefelau optegol awtomatig
● Gosod a defnyddio lefelau digidol
● Gosod a defnyddio lefelau laser gradd sengl a deuol
● Gosod a defnyddio lefelau pibellau
● Cyfrifo arwynebeddau, onglau arwynebeddau a chyfeintiau
● Gwirio’r gosod a chofnodi’r canlyniadau

I sicrhau cyn lleied o anghysondebau â phosibl; cynyddu ymwybyddiaeth o offer digidol o’r radd flaenaf a lleihau / cael gwared ar y gost gynyddol sy’n gysylltiedig Ć chywiro unrhyw osod a lefelu anghywir gan weithwyr dan oruchwyliaeth.
Byddwn yn asesu sgiliau ymarferol yn ffurfiannol ac yn barhaus a bydd prawf byr i asesu’r wybodaeth a gafwyd. Bydd pawb sy’n cwblhau’r cwrs yn derbyn tystysgrif cyflawniad Coleg Cambria.
Yn ddelfrydol, goruchwylwyr safle gyda phrofiad o osod sylfaenol ac sy’n deall sut i weithio gyda lefelau a’u trosglwyddo.
Goruchwylwyr Safle sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu, yn goruchwylio gweithwyr sy’n gweithio yn y meysydd crefft sydd wedi’u rhestru isod:

● Gweithredwyr Safle Cyffredinol
● Gosodwr Brics
● Asiedydd Safle
● Asiedydd ffurfwaith
● Gosodwyr leinin sych
● Gosodwyr lloriau
● Teilswyr
● Gosodwyr systemau ffenestri a drysau
● Gosodwyr nenfydau
£250
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?