main logo

Sgiliau Canolradd mewn Gwasanaethau Adeiladu (Plymwaith a Gosod Trydan)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01552
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn, lawn amser.
Adran
Adeiladu a Gwaith Adeiladu, Trydanol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad eang i ddysgwyr i'r sectorau adeiledig, ac yn eu datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth amdanynt. Bydd pob dysgwr yn cwblhau chwe uned graidd orfodol a fydd yn ymdrin â chyflwyniad i'r sectorau adeiladu ac amgylchedd adeiledig, sgiliau cyflogaeth a chyflogadwyedd ac iechyd a diogelwch. Yn ogystal â'r unedau craidd gorfodol, bydd dysgwyr yn gweithio tuag at ddysgu am ddau faes crefft - Plymwaith a Gwresogi, a Gosod Trydan. Mae'r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth eang, drawsbynciol o'r sector i ddysgwyr, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu datblygiad eu hunain.

● Cyflwyniad i’r Amgylchedd Adeiledig
● Cyflwyniad i’r Crefftau yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
● Cyflwyniad i Gylch Bywyd yr Amgylchedd Adeiledig
● Cyflogadwyedd yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
● Diogelu Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd wrth weithio yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
● Cyflwyniad i Dechnolegau Newydd yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
● un prawf atebion amlddewis wedi’i osod yn allanol, a’i farcio’n allanol.
● un prosiect sy’n ymdrin â dau faes crefft wedi’i osod yn allanol, a’i farcio’n fewnol.
● un drafodaeth dan arweiniad wedi’i gosod yn allanol, a’i marcio’n fewnol.
4 TGAU gyda Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af gradd D/3 neu uwch.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud eich gorau yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a bydd hynny’n gallu arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae’r cymhwyster yn darparu digon o wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth mewn crefft o’u dewis. Ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, efallai byddai dysgwyr nad oes ganddynt brentisiaeth symud ymlaen i un o’r canlynol:
● Sgiliau Uwch Lefel 2 mewn Gwasanaethau Adeiladau – Plymwaith a Gwresogi, neu
● Sgiliau Uwch Lefel 2 mewn Gwasanaethau Adeiladau – Gosod Trydan.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer ynghlwm i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?