main logo

Cyflwyniad i Intaglio Canolfan Argraffu Ranbarthol - cwrs diweddaru

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA16226
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 10 wythnos, nosweithiau Llun/Iau 6-8pm yn cychwyn ar 09.04.2024 -18.06.2024
Adran
Celf a Dylunio
Dyddiad Dechrau
09 Apr 2024
Dyddiad Gorffen
18 Jun 2024

Trosolwg o’r Cwrs


Mae'r Ganolfan Argraffu Ranbarthol unwaith eto yn cynnal y Cwrs Cyflwyniad i Wneud Printiau hynod boblogaidd. Mae’n addas ar gyfer dechreuwyr newydd neu fel cwrs diweddaru i bobl sy'n dychwelyd i wneud printiau ar ôl cyfnod i ffwrdd.

Ein nod yw cynnig cyfle i chi ddefnyddio gwneud printiau i wella eich dawn greadigol.

Mae hwn yn weithdy 10 wythnos i unrhyw un a hoffai roi cynnig ar wneud printiau am y tro cyntaf neu ddiweddaru eu sgiliau gwneud printiau mewn amgylchedd stiwdio broffesiynol. Nod y gweithdy yw rhoi cyfres o sesiynau rhagflas ymarferol i chi mewn amrywiaeth o dechnegau gwneud printiau creadigol

Dros y 10 wythnos bydd sesiynau ar bob un o'r prosesau gwneud printiau canlynol: cerfwedd, intaglio, colagraff, mono a sgrin. Cewch eich dysgu gan Hwylusydd Argraffu’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol sydd â chyfoeth o wybodaeth a dealltwriaeth am wneud printiau.

Darperir yr holl ddeunyddiau ac offer ac anogir cyfranogwyr i archwilio eu pwnc a'u dylanwadau creadigol eu hunain trwy gydol sesiynau'r gweithdy.
Yna gall cyfranogwyr sy'n cwblhau'r rhaglen 10 wythnos fynd ymlaen i'n Gweithdai Ffocws ar Argraffu a Gweithdai Artistiaid Gwadd.

Gallwch hefyd ddefnyddio cyfleusterau mynediad agored y Ganolfan Argraffu Ranbarthol I ddatblygu eu gwaith a'u dealltwriaeth.
Amherthnasol
Mae diddordeb mewn creu delweddau celf yn ofynnol
Yna gall cyfranogwyr sy’n cwblhau’r rhaglen 10 wythnos symud ymlaen i’r Gweithdai Ffocws ar Wneud Printiau a Gweithdai Artistiaid Gwadd. Gallant hefyd ddefnyddio cyfleusterau mynediad agored y Ganolfan Argraffu Ranbarthol i ddatblygu eu gwaith a’u dealltwriaeth.
£150
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?