main logo

Cwrs Gloywi Cyflwyniad i'r Ganolfan Argraffu

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA16643
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 10 wythnos nos Lun/Iau 6-8pm
Adran
Celf a Dylunio
Dyddiad Dechrau
09 Apr 2024
Dyddiad Gorffen
11 Jun 2024

Trosolwg o’r Cwrs

Unwaith eto, mae'r Ganolfan Argraffu Ranbarthol yn rhedeg y Cwrs Cyflwyniad i Wneud Printiau hynod boblogaidd. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer dechreuwyr neu fel cwrs diweddaru i bobl sy'n dychwelyd i wneud printiau ar ôl cyfnod i ffwrdd.
Ein nod yw cynnig cyfle i chi ddefnyddio gwneud printiau i hybu'ch dawn greadigol.

Mae hwn yn weithdy 10 wythnos i unrhyw un a hoffai roi cynnig ar wneud printiau am y tro cyntaf neu adnewyddu eu sgiliau gwneud printiau mewn amgylchedd stiwdio broffesiynol. Nod y gweithdy yw rhoi cyfres o sesiynau profi ymarferol i chi mewn amrywiaeth o dechnegau creu printiau creadigol.

Dros y 10 wythnos cynhelir sesiynau ar bob un o'r prosesau gwneud printiau canlynol: cerfweddu, intaglio, colagraff, mono a sgrin. Byddwch yn cael eich addysgu gan Hwylusydd Print y Ganolfan Argraffu Ranbarthol sydd â chyfoeth o wybodaeth a dealltwriaeth o argraffu.

Bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu darparu ac anogir y cyfranogwyr i archwilio eu pwnc a'u dylanwadau creadigol eu hunain drwy gydol sesiynau'r gweithdy.

Gall cyfranogwyr sy'n cwblhau'r rhaglen 10 wythnos symud ymlaen wedyn I'r Gweithdai Canolbwyntio ar Wneud Printiau a’r Gweithdai Artistiaid Gwadd. Gallant hefyd ddefnyddio cyfleusterau mynediad agored y Ganolfan Argraffu Ranbarthol I ddatblygu eu gwaith a'u dealltwriaeth.
Amherthnasol, heb ei achredu
Mae diddordeb mewn gwneud delweddau celf yn ofynnol.
Gall cyfranogwyr sy’n cwblhau’r rhaglen 10 wythnos symud ymlaen wedyn i’r Gweithdai Canolbwyntio ar Wneud Printiau a’r Gweithdai Artistiaid Gwadd. Gallant hefyd ddefnyddio cyfleusterau mynediad agored y Ganolfan Argraffu Ranbarthol i ddatblygu eu gwaith a’u dealltwriaeth.
£150
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?