main logo
Tydi hi ddim yn rhy hwyr...

Gwnewch Gais Rŵan ar gyfer Cyrsiau sy'n dechrau eleni

Coleg 16-18

Mae amser o hyd i wneud cais am gyrsiau llawn amser neu ran-amser sy'n dechrau yn Cambria eleni!

Ar draws chwe safle yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, mae Cambria yn cynnig ystod eang o gyrsiau amser llawn a rhan-amser gan gynnwys Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion ac Addysg Uwch.

Gan weithio mewn partneriaeth â dros 1,000 o gyflogwyr, mae’r Coleg hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth gyda chysylltiadau cadarn â chyflogaeth leol.

Chwiliwch Drwy Ein Holl Gyrsiau

Dewch i ddarganfod y cwrs cywir i chi!

Cyrsiau Llawn Amser

Mae cyrsiau Safon Uwch llawn amser ac ymarferol sy’n dechrau’r flwyddyn academaidd hon ar gael ar safleoedd Cambria yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi. Gyda thiwtoriaid arbenigol, cyfleusterau o safon fyd-eang a mynediad i’r dechnoleg ddiweddaraf, mae cyrsiau llawn amser yn paratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd ar ôl Coleg, boed hynny’n brifysgol, prentisiaeth neu ddechrau gyrfa wych.

Mae gan bob myfyriwr eu Hanogwr Cynnydd eu hun i sicrhau ei fod yn cyflawni trwy gydol ei raglen yn Cambria ac yn aros ar y trywydd iawn. Mae gan y Coleg Dîm Cymorth Ychwanegol ardderchog sy’n gweithio gyda myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnynt i gyflawni eu potensial. Mae cymorth bugeiliol ychwanegol ar gael i bob myfyriwr yn y Coleg sy’n cynnwys tîm Gwasanaethau Myfyrwyr cyfeillgar a phrofiadol sy’n darparu cymorth a gwybodaeth, staff iechyd a llesiant, anogwyr gwytnwch, mannau tawel fel hybiau iechyd a llesiant a chymorth iechyd meddwl.

Mae rhwydwaith o fysiau yn cludo myfyrwyr llawn amser i’r chwe safle bob dydd. Mae pob bws yn gollwng myfyrwyr ar dir y Coleg neu gerllaw a gall myfyrwyr fod yn gymwys i deithio am ddim ac mae gan unrhyw fyfyriwr yn unrhyw un o safleoedd Cambria hawl i gasglu brecwast iach AM DDIM o unrhyw un o safleoedd bwyta’r Coleg, Dydd Llun – Dydd Gwener 8am – 9.15 yn.

Chwiliwch drwy ein Ein Cyrsiau Llawn Amser

Am ragor o wybodaeth am gyrsiau llawn amser a sut i wneud cais

Cyrsiau Gradd

Mae Cambria yn gweithio mewn partneriaeth â rhai o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r DU i gynnig cyrsiau gradd gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol John Moores Lerpwl, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Wrecsam.

Mae’r cyrsiau lefel prifysgol i gyd wedi’u cynllunio gyda chyflogaeth mewn golwg i wneud y gorau o’ch potensial gyrfa. Bob blwyddyn, mae niferoedd cynyddol o fyfyrwyr yn dewis astudio cyrsiau lefel gradd yn Cambria.

Rydym wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd yn ein cyfleusterau a’n safleoedd, ac mae ein myfyrwyr wedi elwa o hynny, gan ennill canlyniadau rhagorol a rhagolygon gwell i gael gwaith fel graddedigion. Mae mewnbwn cyflogwr yn sicrhau eich bod yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn eich gyrfa ddewisol.

Chwiliwch drwy Ein Cyrsiau Lefel Gradd

Am ragor o wybodaeth am gyrsiau lefel gradd a sut i wneud cais

Cyrsiau Rhan-amser

Mae cyrsiau rhan-amser wedi’u cynllunio i wella sgiliau gwaith a datblygiad gyrfa, gall ymgeiswyr astudio unrhyw beth o wneud printiau a chymorth cyntaf yn y gwaith, i wneud coctêls, blodeuwriaeth a thwtio cŵn.

Ymhlith y sefydliadau achredu sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg mae IOSH, Llywodraeth Cymru, City and Guilds, Lantra, CIPD, Prince2, a Dysgu Cymraeg. Os ydych chi’n gyflogedig ac eisiau uwchsgilio neu’n edrych am newid gyrfa, neu os ydych chi eisiau cyfarfod â phobl newydd a dysgu rhywbeth newydd.

Chwiliwch drwy Ein Cyrsiau Rhan-amser

Am ragor o wybodaeth ar gyrsiau Rhan-amser a sut i wneud cais

Cyfrif Dysgu Personol (PLA)

Mae cymorth cyllid PLA ar gael trwy Gyfrif Dysgu Personol os rydych chi dros 19 oed ac yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill o dan £29,534 y flwyddyn, neu mae eich swydd mewn perygl.

Mae PLA yn eich galluogi chi i astudio cyrsiau hyblyg, rhan-amser o amgylch eich bywyd a’ch ymrwymiadau presennol. Mae’n eich galluogi chi i ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch chi i newid gyrfaoedd a dechrau ar lwybr newydd.

Mae cyrsiau PLA yn darparu dysgu hyblyg, wedi’i ariannu’n llawn, ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Byddwch yn gallu cael y sgiliau a’r cymwysterau newydd sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol i’ch helpu chi i ddatblygu eich gyrfa bresennol neu ei newid yn gyfan gwbl.

Cyrsiau Am Ddim

Mae'r holl gyrsiau sydd ar gael yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. I ddarganfod am y cyrsiau sydd ar gael, cymhwysedd a rhagor

Digwyddiadau Agored

Mae ceisiadau ar gyfer mis Medi 2024  yn agor ym mis Tachwedd. Bydd Digwyddiadau Agored yn cael eu cynnal ar bob safle Cambria gan roi’r cyfle i chi gael taith o amgylch y cyfleusterau a siarad gyda thiwtoriaid arbenigol.

Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy

Dydd Mercher 8 Tachwedd 5-8pm 

Llysfasi

Dydd Sadwrn 11 Tachwedd 10-1pm 

Ffordd y Bers

Dydd Mercher 15 Tachwedd 5-8pm 

Iâl a Chweched Iâl

Dydd Mercher 15 Tachwedd 5-8pm 

Llaneurgain

Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 10-1pm 

Siaradwch â'r tîm

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 007

Anfonwch E-bost atom ni

Anfonwch e-bost atom ni

enquiries@cambria.ac.uk

Gwybodaeth am ein Coleg

Sefydlwyd y coleg yn ôl yn 2014, ac ers hynny rydym wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y DU. Rydym yn un o’r colegau mwyaf yn y DU, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan-amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol.

Ar draws ein deg safle, rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau amser llawn a rhan-amser gan gynnwys cyrsiau Safon Uwch, TGAU, BTECs, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â thros 1000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu i gael cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.

Play Video
Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth ysbrydoledig o’r dyfodol yw ‘rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth.’

Ein blaenoriaeth gyffredinol yw parhau i gyflwyno addysgu a dysgu rhagorol, er mwyn ymestyn, herio ac ysbrydoli pob dysgwr i archwilio a chyflawni i’w llawn botensial. Mae hyn yn hanfodol wrth i swyddogaeth Cambria ddod yn bwysicach byth i’n cymunedau a’n heconomi.

Ein Gwerthoedd

Dangos gonestrwydd ac uniondeb

Cael eich parchu a'ch gwerthfawrogi

Bod yn garedig a chefnogol

Gweithio gydag eraill

Teimlo'n gyfartal a chynhwysol

Bod yn gymuned

Bod yn rhagorol ac ysbrydoledig

Annog ac ysgogi

Bod yn frwdfrydig

Bod yn arloesol