Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA00057 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Caiff y cymhwyster UG ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio. Caiff y cymhwyster Safon Uwch ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2023 |
Dyddiad Gorffen | 21 Jun 2024 |
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Cafodd y cwrs hwn ei lunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb a dysgu iaith yn ogystal â bod yn frwdfrydig drosti.
Mae’r cwrs UG/Safon Uwch yn llwybr datblygu naturiol i fyfyrwyr sydd wedi astudio Ffrangeg ar lefel TGAU. Bydd 4 sgil yn cael eu meithrin ymhellach, sef gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Bydd myfyrwyr hefyd yn dod i ddeall yr iaith Ffrangeg yn well.
Bydd myfyrwyr yn cael y cymorth a’r anogaeth y maent eu hangen i gyfathrebu’n hyderus, i siarad effeithiol a bod yn aelodau o gymdeithas amlieithog fyd-eang. Yn ogystal ag astudio ystod o bynciau cyfoes, caiff y myfyrwyr gyfle i gael blas ar fyd sinema a llenyddiaeth Ffrainc.
Rydym yn darparu adnoddau ardderchog i’n myfyrwyr a fydd yn cyfoethogi eu profiad dysgu.
Rydym yn annog ein myfyrwyr i ymweld â Ffrainc, a phrofi diwylliant a ffordd o fyw Ffrangeg yn uniongyrchol. Oherwydd hynny, rydym yn cynnig cyfleoedd teithio i’n myfyrwyr. Rydym hefyd yn eu cynghori ynglŷn â chyfleoedd teithio’n annibynnol i Ffrainc i gyflawni cyfnod o brofiad gwaith neu astudio cyrsiau yno.
Rydym yn awyddus i roi cyfle i’n myfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau iaith yn ymarferol yma yn y coleg. Mae grwpiau bychain o fyfyrwyr yn cyfarfod bob wythnos gyda chymhorthydd ieithoedd tramor, yn ogystal â chael nifer o gyfleoedd i drafod a sgwrsio yn eu gwersi.

Ar lefel UG, bydd sgiliau siarad myfyrwyr yn cael eu hasesu, a byddant yn sefyll un papur arholiad sy’n cynnwys Gwrando, Darllen, Cyfieithu ac Ymateb Beirniadol Ysgrifenedig.
Ar lefel Safon Uwch, bydd sgiliau siarad myfyrwyr yn cael eu hasesu, a byddant yn sefyll dau arholiad ysgrifenedig ychwanegol sy’n cynnwys Gwrando, Darllen, Cyfieithu yn ogystal ag Ymateb Beirniadol a Dadansoddol Ysgrifenedig.

5 TGAU gradd C/4 neu’n uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/ Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Ffrangeg.
Byddwn yn ystyried cais ymgeiswyr sydd â gradd D/3 mewn unai TGAU Mathemateg neu Saesneg neu rhagwelir gradd D/3 ar eu cyfer (ac o leiaf gradd C/4 yn y pwnc arall).
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Mae Ieithoedd Tramor Modern yn cael eu hadnabod fel cyrsiau “Safon Uwch Hwyluso”. Hynny yw, mae prifysgolion yn gweld gwerth mawr iddynt, gan gynnwys prifysgolion grŵp Russell.
Gall y cwrs hwn fod yn gam sylweddol i astudio ymhellach neu gyflogaeth. Yn naturiol, mae cymhwysedd mewn iaith dramor yn rhoi nifer fawr o gyfleoedd gyrfa i chi, nad oes terfyn arnynt. Mae prinder o siaradwyr Ffrangeg yn genedlaethol. Dyma ambell enghraifft o swyddi sydd yn defnyddio ieithoedd tramor: Busnes a Masnach, Gwasanaeth Diplomyddol, Rheoli Trychinebau, Peirianneg, Teledu a Ffilm, TG a Chyfrifiaduro, Cyfieithu, Newyddiaduraeth, Y Gyfraith, Marchnata, y Cyfryngau ac Adloniant, Meddygaeth, Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored, Cynorthwyydd Personol, Peilot, Gweithwyr Chwaraeon Proffesiynol, Addysgu, Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, Teithio a Thwristiaeth, Au u Pair.

Efallai bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit ListEin diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.