main logo

Tystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIPD mewn Arferion Pobl

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA14278
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Dylid cwblhau’r dysgu o fewn 12 mis. (34 wythnos fel arfer). Ffoniwch Goleg Cambria ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i gael dyddiadau’r cwrs.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
17 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
01 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

DARPARIAETH / CYMORTH TIWTOR:

Rhaglen a addysgir yw hon, gyda chymorth tiwtor ar gyfer aseiniadau ac asesiadau. (Rhan-amser am 4 awr yr wythnos). Mae'r rhaglen yn cynnwys 4 uned graidd Orfodol:

Busnes, Diwylliant a Newid mewn Cyd-destun
Egwyddorion Dadansoddi
Ymddygiadau Craidd ar gyfer Gweithwyr Pobl Proffesiynol
Hanfodion Ymarfer Pobl

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd aelodau'r cwrs yn gymwys i fod yn Aelodau Cyswllt o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Nid oes unrhyw arholiadau.

Bydd pob uned yn cael ei hasesu gan amrywiaeth o dasgau asesu a allai gynnwys aseiniadau, astudiaethau achos, dadansoddiad ystadegol neu weithgareddau ymarferol. Bydd disgwyl i aelodau’r cwrs asesu eu datblygiad eu hunain a chynnal Cofnod Dysgu a fydd yn cael ei gyflwyno a’i adolygu.
Mae’r cymhwyster yn rhoi cyfle i aelodau’r cwrs ymgyfarwyddo ag ystod eang o wybodaeth berthnasol ac arbenigedd mewn Arferion Pobl. Mae’r cwrs yn addas i bobl sydd:

● yn astudio, yn anelu at neu’n dechrau ar yrfa mewn Arferion Pobl.
● eisoes yn gweithio mewn swydd cymorth Arferion Pobl ac eisiau datblygu eu gwybodaeth o’r maes er mwyn darparu gwerth ar unwaith, a thymor byr ar gyfer eu sefydliad.
● eisiau datblygu’r wybodaeth arbenigol, sgiliau a dealltwriaeth sydd eu hangen i fod yn weithwyr proffesiynol pobl.
● yn berchnogion neu reolwyr busnesau bach.
Cymwysterau Diploma CIPD mewn Rheoli Pobl neu Ddysgu a Datblygu Sefydliadol neu gymhwyster arall yn y gweithle y mae QCF wedi’i gymeradwyo.
Cost y rhaglen sylfaen yw £2,100.

Yn ogystal, mae’n rhaid I aelodau’r cwrs danysgrifio I aelodaeth CIPD sy’n costio oddeutu £130 yn y flwyddyn gyfredol (yn daladwy yn uniongyrchol I CIPD) – rhoddir manylion am sut y byddwch yn cael aelodaeth myfyrwyr ar ddechrau’r cwrs.

Argymhellir gwerslyfr a fydd yn costio oddeutu £35.00. (neu £30 fel e-lyfr).
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?