Diploma NVQ Lefel 4 ILM mewn Rheoli

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA01315
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Oddeutu 18 Mis
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster yn rhoi cyfle i ddysgwyr weithio a dysgu ar yr un pryd. Mae'n addas ar gyfer y rheini sydd mewn swyddi rheolwr canol ac yn gyfrifol am reoli timau neu weithrediadau bob dydd a allai gynnwys datblygu cynlluniau gweithredol, rheoli perfformiad unigolion a thîm, rheoli prosiectau, lleihau risgiau a datblygu perthnasoedd gwaith gyda rhanddeiliaid. Dylai dysgwyr gael eu cefnogi gan eu cyflogwr er mwyn cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus.

Unedau Gorfodol:

300 Rheoli Datblygiad Personol a Phroffesiynol
400 Darparu Arweinyddiaeth a Rheolaeth
401 Datblygu a Gweithredu Cynllun Gweithredol
402 Datblygu Perthnasoedd Gwaith gyda Rhanddeiliaid

Unedau Dewisol:

404 Annog Dysgu a Datblygu
405 Ysgogi a Gweithredu Newidiadau
413 Rheoli Prosiect
414 Rheoli Risg Busnes
416 Arferion Recriwtio, Dethol ac Ymsefydlu


Mae'r unedau dewisol a ddangosir yn sampl fechan o unedau sydd ar gael
Bod yn gweithio mewn swydd briodol er mwyn gallu casglu tystiolaeth
Cefnogaeth gan eich cyflogwr ar gyfer ymweliad asesydd â’r gweithle
Bydd dysgwyr yn cael asesydd a fydd yn ymweld unwaith y mis i dywys y dysgwr i i lunio portffolio o dystiolaeth o’u gwybodaeth a’u cymhwysedd. Bydd tystiolaeth yn cael ei hennill drwy arsylwi’r dysgwr yn uniongyrchol, gan ddarparu dogfennaeth y mae’r dysgwr yn ei chwblhau neu sy’n ymwneud â nhw, cydweithwyr a rhanddeiliaid yn darparu tystiolaethau tystion i gadarnhau bod y dysgwr wedi cyflawni tasgau, trafodaethau rhwng y dysgwr a’r asesydd am dasgau a gwblhawyd a datganiadau ysgrifenedig neu drafodaethau wedi’u recordio i gwmpasu’r wybodaeth ym mhob uned.
Gan fod y cymhwyster hwn ar gyfer rheolwyr canol, bydd yn cadarnhau bod y dysgwr yn gymwys yn y swydd hon ac fe allai gyflwyno cyfleoedd i symud ymlaen i lefelau uwch o reolaeth.
£1,250.00 am yr NVQ ar ei ben ei hun.

Fodd bynnag, os caiff ei wneud fel rhan o fframwaith prentisiaethau, bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyn yn amodol ar rai gofynion cymhwysedd.

Am ragor o fanylion cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?