main logo

Diploma Lefel 2 VTCT mewn Therapi Harddwch Cyffredinol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA55026
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 18 mis
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
30 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
30 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn wedi ei lunio’n benodol i’r grŵp oedran 16-19, a bydd y wybodaeth a sgiliau technegol i baratoi dysgwyr at gyflogaeth fel therapydd harddwch iau. Byddwn yn asesu sgiliau therapi harddwch dysgwyr mewn amgylchedd gwaith go iawn.

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i weithio’n effeithiol fel therapydd harddwch gan gynnwys: gofalu am groen yr wyneb, harddu’r aeliau a blew’r amrannau, gwasanaethau cwyro, triniaethau’r dwylo, triniaethau’r traed, effeithiolrwydd yn y gwaith, iechyd a diogelwch, hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau ychwanegol i gleientiaid.

Bydd dysgwyr yn parhau i feithrin eu dealltwriaeth a’u sgiliau drwy ddewis nifer o unedau arbenigol dewisol sy’n cynnwys: tyllu’r clustiau, gwasanaethau colur, gweithrediadau sba, edafu, cuddliwio’r croen, dyletswyddau derbynfa salon - mae’r rhestr lawn o’r unedau dewisol yn y llyfr Cofnodi Asesiadau dysgwyr (manyleb). Mae strwythur y cymhwyster hwn yn rhoi’r hyblygrwydd i ddysgwyr feithrin y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau yn dibynnu ar eu llwybr gyrfa fel therapydd harddwch iau.
Dyma un o ddau gymhwyster Lefel 2 VTCT mewn therapi harddwch. Er bod y ddau gymhwyster yn golygu bod dysgwyr yn gymwys i fod yn arbenigwyr harddwch a chael cyflogaeth ar lefel ieuaf, mae’r cymhwyster hwn yn gofyn bod dysgwyr yn gweithio mewn salon harddwch fasnachol lle mae asesiadau yn cael eu gweithredu ar gleientiaid go iawn sy’n talu, yn unol ag amseroedd gwasanaethau masnachol.
Gallwch ddechrau ar y cwrs os ydych wedi cyflawni cymhwyster Lefel 1 mewn therapi harddwch yn y gorffennol a/neu brawf sgiliau a chyfweliad llwyddiannus.
Hefyd, bydd rhaid i chi fod yn gyflogedig gyda chyflogwr addas yn y sector Harddwch.
Mae cyfleoedd gyrfa fel therapydd harddwch iau yn bodoli mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys:

– Salonau harddwch masnachol
– Gweithio’n annibynnol / hunan-gyflogedig / symud o le i le / gweithio o adref
– Stondinau harddwch masnachol
Am gost, cyfeiriwch at y canllaw cwrs rhan-amser neu cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu e-bostiwch employers@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?