main logo

HNC Technoleg Fecanyddol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00635
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, 2 flynedd – rhan-amser, Rhyddhau o’r gwaith am y diwrnod.

Bydd angen i fyfyrwyr ar y cwrs hwn fynd i’r afael â chyfnodau o hunan astudio yn ogystal â’r oriau addysgu.

Caiff y rhaglen hon ei chyflwyno trwy sesiynau wyneb yn wyneb ar ein safle Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy.

Sylwch mewn achosion lle nad oes modd cwblhau lleoliadau gwaith oherwydd rhesymau diogelwch, byddwn yn addasu modiwlau i gynnwys prosiectau sy’n ymwneud â’r gwaith mewn ffordd a fydd yn datblygu eich sgiliau yn y gwaith.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
17 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r HNC mewn Technoleg Fecanyddol yn cael ei gynnig yng Ngholeg Cambria (safle Glannau Dyfrdwy) trwy gytundeb ar y cyd gyda Phrifysgol Wrecsam. Mae'n cynnwys astudiaeth ran-amser dwy flynedd, a bydd myfyrwyr yn cael eu rhyddhau o’r gwaith am y diwrnod. Hefyd mae angen cwblhau modiwlau galwedigaethol-benodol.

Nod y rhaglen yw paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod o yrfaoedd technegol, proffesiynol a rheolaethol uwch mewn peirianneg trwy ddarparu astudiaethau arbenigol sy'n berthnasol i'r galwedigaethau a'r proffesiynau hynny y mae myfyrwyr yn cael eu cyflogi ynddynt.

Mae HNCs yn gymwysterau meincnod ar gyfer Technegwyr Peirianneg, a gydnabyddir gan ddiwydiant ac sy'n hanfodol ar gyfer rhai swyddi yn Lluoedd EM. Mae ein cwrs HNC yn eich cyflwyno i hanfodion gwyddoniaeth peirianneg fecanyddol, sgiliau busnes a rheoli y bydd eu hangen arnoch i lwyddo ac yn rhoi cyfle i chi hogi eich sgiliau mathemateg a TG.

Mae hwn yn gwrs ar gyfer ymgeiswyr sy'n cael eu cyflogi mewn maes peirianneg perthnasol. Bydd yn ofynnol i gyflogwyr gefnogi eu gweithwyr gydag amser i fynd i’r cwrs a chynnal eu hastudiaethau, heb unrhyw ofyniad i'r oriau gael eu gwneud yn rhywle arall, na didyniadau mewn cyflog.

Modiwlau Blwyddyn 1

ENG4AR - Cymwysiadau Cyfrifiadurol Peirianneg (20crdt)
ENG430 - Dylunio Peirianneg (10crdt)
ENG428 - Gwyddoniaeth Mechanyddol (20crdt)
ENG427 - Mathemateg Peirianneg (20crdt)
ENG4AS - Deunyddiau Peririanneg (10crdt)

Modiwlau Blwyddyn 2

ENG436 - CAD/CAM (20crdt)
ENG426 - Busnes (20crdt)
ENG503 - Prosiect (20crdt)
ENG506 - Egwyddorion Mecanyddol (10crdt)



Cymysgedd o adroddiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, portffolios, gweithgareddau ymarferol ac arholiadau.
I gael mynediad i gwrs HNC Technoleg Fecanyddol, dylai ymgeisydd llwyddiannus ddal:

Lefel 3 – Dydd Rhyddhau – Cymwysterau mewn pwnc perthnasol (64 pwynt UCAS) wedi cyrraedd MM

neu

Lefel 3 – Diploma Estynedig – Cymwysterau mewn pwnc perthnasol (64 pwynt UCAS) wedi cyrraedd MPP

Ymgeiswyr Eraill

Profiad mewn maes cyfatebol, gyda chymwyster lefel 3.
Bydd rhain yn cael eu archwilio fesul achos, er mwyn pennu addasrwydd ar gyfer y cwrs.
Efallai bydd angen prawf mynediad ar-lein i ddadansoddi safon gwybodaeth mathemateg a pheirianeg fecanyddol.

neu

Safon Uwch (gyda UG ychwanegol) mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth, wedi cyrraedd AB (64 pwynt UCAS)
Ar ôl cwblhau’r cwrs bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch pellach fel graddau Sylfaen a BEng.

• BEng Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch
• FdEng Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch
£TBC pob flwyddyn academaidd (TBC)
(£TBC i gyd dros 2 flynedd)

Nid oes angen gwig benodol.

Bydd pob dysgwr angen yr offer canlynol ar gyfer pob gwers o’r cwrs HNC:
Llyfr nodiadau
Pen a Phensil
Rheolydd
Cyfrifianell Wyddonol

Defnyddiwch Brifysgol Wrecsam fel y Sefydliad ar eich cais Cyllid Myfyrwyr.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?