main logo

Lefel 1 Peirianneg

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01052
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser (Tridiau’r wythnos yn y coleg)
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs ymarferol hwn yn eich helpu i ennill sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd Peirianneg.

Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth o fesuriadau a dulliau cyfrifo arbenigol a iechyd a diogelwch. Bydd y cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r theori i chi a fydd yn sail i’r cymwyseddau ymarferol. Bydd y cwrs hwn yn dilyn llwybr City and Guilds a bydd angen i fyfyrwyr gwblhau pob un o’r unedau isod er mwyn ennill cymhwyster llawn.

Tystysgrif 7682 City & Guilds mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg Gwaith Ymarferol (Unedau Enghreifftiol)
Uned 201 - Gweithio’n Ddiogel mewn Amgylchedd Peirianneg
Uned 102 - Ymgymryd â Gweithgarwch Peirianneg yn Effeithlon ac Effeithiol.
Uned 103 - Defnyddio a Chyfathrebu Gwybodaeth Dechnegol.
Uned 104 – Gwneud Cydrannau gan Ddefnyddio Offer Llaw a Thechnegau Ffitio
Uned 107 - Paratoi a Defnyddio Turniau ar gyfer Gweithrediadau Turnio
Uned 123 - Cydosod Cylchedau Electronig

Datblygu Sgiliau Llythrennedd a Rhifedd.

Bydd disgwyl i fyfyrwyr nad oes ganddynt radd C/4 mewn Mathemateg a Saesneg fynychu sesiynau I gefnogi hynny, yn ychwanegol at eu rhaglen alwedigaethol.
Mae’r cwrs hwn yn galw am asesiad parhaus o aseiniadau yn y Coleg a fydd yn cael eu casglu fel portffolio o dystiolaeth i fodloni gofynion y corff dyfarnu.

Yn ogystal, bydd arholiadau ar-lein wedi eu gosod a’u marcio yn allanol yn cael eu trefnu ar adegau allweddol trwy gydol y cwrs.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg/Saesneg (Iaith gyntaf), neu’ch bod wedi cwblhau cymhwyster cyfwerth yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Erbyn hyn mae nifer cynyddol o gyflogwyr yn y diwydiant Peirianneg Fecanyddol / Gweithgynhyrchu yn gweld gwerth mewn Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) perthnasol.
Efallai y bydd cyfleoedd yn bodoli i gael cyflogaeth hyfforddeion yn unrhyw un o’r disgyblaethau masnach canlynol:

Gosod
Mecanyddol / Cydosod
Peirianneg Drydanol

Gall dysgwyr sy’n cael gwaith hefyd, yn dibynnu ar yr amodau a gynigir gan eu cyflogwr, gael cyfle I symud ymlaen I Beirianneg Fecanyddol Lefel 2/3 a fyddai’n cwblhau eu prentisiaeth.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?