Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) - TAR/TBA

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP51315
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, Mae llawn amser yn flwyddyn o astudio gyda phob darlith/seminar yn cael eu cynnal dros 1 diwrnod yr wythnos.

Mae rhan-amser yn 2 flynedd o astudio gyda phob darlith/seminar yn cael eu cynnal dros 1 diwrnod yr wythnos.

Bydd hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â lleoliad addysgu er mwyn cronni 100 awr o addysgu trwy gwblhau eu hastudiaethau.

Bydd angen i bob myfyriwr ymgymryd â chyfnodau o hunanastudio fel rhan o’r gofynion rhaglen ac asesu.
Adran
Addysgu, Asesu ac Addysg
Dyddiad Dechrau
20 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae ein rhaglen AHO yn eich darparu gyda chymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n eich galluogi i archwilio ystod o yrfaoedd addysgu yn y sector Dysgu Gydol Oes. Mae hyn yn cynnwys, Addysg Bellach, darpariaeth gwaith ieuenctid, y sector oedolion a chymunedol, addysg yn y gwaith, hyfforddiant yn lluoedd Ei Fawrhydi, addysg carchardai, adrannau hyfforddiant masnachol a diwydiant.

Noder: Mae'r AHO yn canolbwyntio ar addysgu yn y sector ôl-orfodol, felly nid yw'n arwain at SAC sy'n ofynnol i addysgu mewn ysgolion.

Mae dau gwrs ar gael yn dibynnu ar eich cymwysterau presennol:

Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) AHO - Lefel 6

Noder: Mae’r AHO TAR ar gyfer graddedigion sy’n dymuno addysgu eu pwnc gradd neu faes y maent wedi’i gymhwyso ynddo hyd at Lefel 3 neu uwch.

Tystysgrif Broffesiynol mew Addysg (TBA) AHO - Lefel 5

Noder: Mae’r AHO TAR ar gyfer myfyrwyr sydd â chymhwyster lefel 3 yn y maes y maent yn dymuno ei addysgu a phrofiad yn y diwydiant.

Bydd myfyrwyr graddedig (sy'n astudio'r AHO ar Lefel 6) a myfyrwyr nad ydynt yn raddedigion (sy'n astudio'r AHO ar Lefel 5) yn dilyn yr un rhaglen astudio, fodd bynnag, byddant yn cael eu hasesu ar y lefelau gwahanol.

Gall myfyrwyr ddewis astudio'r AHOP naill ai ar safle Iâl neu safle Gannau Dyfrdwy gyda'r holl ddarlithoedd a seminarau'n cael eu cynnal dros un diwrnod yr wythnos. Gellir cwblhau hyn naill ai'n llawn amser (1 flwyddyn astudio) neu'n rhan-amser (2 flynedd o astudio).

BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?
Mae'r rhaglen wedi'i hachredu gan Brifysgol Aberystwyth ac yn cael ei chyflwyno gan staff profiadol iawn yng Ngholeg Cambria sydd â phrofiad sylweddol yn y diwydiant.
Mae dulliau dysgu cyfranogol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr yn cael eu mabwysiadu sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr ymgymryd ag amrywiaeth o ddulliau addysgu megis trafodaethau grŵp, trafod a dulliau dysgu cyfunol. Mae'r dull hwn sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr yn caniatáu i fyfyrwyr gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain gyda thiwtoriaid yn cael eu hystyried fel hwyluswyr dysgu, gan ddarparu adnoddau, ysgogi, cefnogi a herio yn ôl yr angen.

Mae'r tîm yn ymfalchïo yn y lefel uchel o gefnogaeth ac arweiniad a ddarperir, sy'n cael ei amlygu'n rheolaidd o fewn adborth myfyrwyr.

MODIWLAU:

Byddwch yn astudio 6 o’r modiwlau canlynol o 20 credyd yr un.

• Addysgu Effeithiol ar gyfer Dysgu Effeithiol 1

• Addysgu Effeithiol ar gyfer Dysgu Effeithiol 2

• Dysgu a Datblygu Maes Arbenigol

• Llythrennedd Dysgu

• Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Dysgu Cynhwysol

• Dysgu Cymwyseddau Digidol

• Dysgu Troseddwyr (mae’r modiwl hwn yn ofynnol os oes gennych leoliad yn CEF Berwyn) (myfyrwyr Iâl)

• Dysgu Dwyieithog (Modiwl opsiynol ar gyfer myfyrwyr Iâl yn unig)

Os ydych yn cwblhau’r cwrs dros ddwy flynedd, byddwch yn astudio 3 modiwl y flwyddyn.

LLEOLIADAU GWAITH

Mae'r ddau lwybr yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 100 awr o addysgu (dros gyfnod y rhaglen). Os nad ydych eisoes mewn cyflogaeth addysgu, byddwn yn eich cefnogi i geisio sicrhau lleoliad addysgu (a mentor). Fodd bynnag, nodwch mai myfyrwyr yn y pen draw sy'n gyfrifol am drefnu eu lleoliad addysgu eu hunain a dod o hyd i fentor pwnc addas i gefnogi eu hymarfer addysgu proffesiynol.


Mae'n ofynnol i fyfyrwyr sy'n gweithio yn y sectorau AB a dysgu yn y gwaith gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ac mae'r broses hon yn cael ei hwyluso trwy gysylltiadau tîm rhaglen â chynrychiolwyr CGA.

Mae myfyrwyr sy'n dymuno addysgu mewn Addysg Uwch yn cael eu cyfeirio at aelodaeth o’r elusen Advance AU fel rhan o'u DPP.


Bydd ystod o ddulliau asesu drwy gydol y rhaglen yn cynnwys adroddiadau, cyfnodolion myfyriol, arsylwadau ymarfer addysgu, traethodau, cyflwyniadau a ffolder addysgu. Nid oes unrhyw arholiadau ffurfiol ar yr AHO (TAR/TBA).
AHO (TBA – Lefel 5)

5 mlynedd o brofiad galwedigaethol a Lefel 3 neu uwch mewn disgyblaeth alwedigaethol yr hoffech ei haddysgu.

Mae angen gwiriad Heddlu manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y cwrs hwn.

AHO (TAR – Lefel 6)

Gradd Anrhydedd yn y pwnc yr hoffech ei addysgu.

Mae angen gwiriad Heddlu manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y cwrs hwn.

Dyddiad Cau Ceisiadau Staff – 15 Mehefin bob blwyddyn
Dyddiad Cau Ceisiadau Allanol – 15 Awst bob blwyddyn
Mae’r AHO (TAR/TBA) wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer y rhai sydd eisiau cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol er mwyn addysgu myfyrwyr yn y sector addysg ôl-orfodol. Mae hyn yn cynnwys addysg bellach, darpariaeth gwaith ieuenctid, y sector oedolion a chymunedol, addysg yn y gwaith, hyfforddiant yn lluoedd Ei Fawrhydi, addysg carchardai, adrannau diwydiant a hyfforddiant masnachol.
Llawn amser £9000 y flwyddyn
Rhan-amser £4500 y flwyddyn

Y myfyrwyr i dalu am gostau teithio i ac o’r lleoliad gwaith.

A wnaiff ymgeiswyr mewnol gyfeirio at Ganllaw Cyllid Dysgu Proffesiynol Coleg Cambria.

Dyddiad Cau Ceisiadau Staff – 15 Mehefin bob blwyddyn
Dyddiad Cau Ceisiadau Allanol – 15 Awst bob blwyddyn

Defnyddiwch Brifysgol Aberystwyth fel y Sefydliad ar eich cais Cyllid Myfyrwyr.

Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?